Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 15, 2010

Ergyd i’r Estroniaid

Mae’n siwr eu bod nhw’n disgwyl penawdau ffafriol: Gweinyddiaeth yr Amgylchedd yn Madrid wedi cyhoeddi ymgyrch newydd i gael gwared ar gannoedd o blanhigion, anifeiliaid, pysgod a phryfaid. Ond, wrth gwrs, mae pawb sy’n ymddiddori yn y pethau hyn yn mynd yn syth at y rhestr i weld beth sydd ddim yno. Y siluro, e.e. Gorffais i fynd i chwilio beth oedd hwnnw, ac mae’n fwystfil hagr gafodd ei gyflwyno i Afon Ebro er mwyn y diwydiant pysgota amser hamdden. Silurus glanis yw ei enw gwyddonol, y Wels (na, nid Welsh) catfish yn Saesneg. Mae’n dod yn wreiddiol o’r Almaen ac yn gallu tyfu’n bron i 3m o hyd. Maen nhw’n bwyta pysgod llai, fel y byddech chi’n disgwyl, ond hefyd unrhyw anifail bach sy’n nofio, adar sy’n hedfan yn isel, cimwch ayyb. Ac mae hwnnw’n cael aros.

O fwy o ddiddordeb inni yn Asturias yw’r ffaith nad yw’r ewcaliptws ar y rhestr. Mae’r goeden hon, sy’n tyfu’n glou, ac yn syth, wedi cael llwyddiant ysgubol hyd nes bod un o bob pump o goed Asturias yn ewcaliptws – 350,000 hectar ohonyn nhw.

Ac maen nhw’n lledu’n hawdd. Nhw sydd wedi cymryd lle’r deri, y pinwydd, y castanwydd, a’r gwern. Mae cyngor Ribadesella wedi dechrau’u tynnu nhw mâs o un safle yn eu meddiant nhw, a phlannu coed brodorol yn lle, ond bydd hi’n dasg enfawr cael gwared o’r cwbl – yn enwedig heb eu bod ar y rhestr o ‘estroniaid’ .

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: