Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 16, 2010

Colli’r Prestige

Wyth mlynedd yn ôl i heddiw, fe gyrhaeddodd y cyntaf o’r miloedd o dunnelli o olew trwchus draethau gorllewin Galicia. Roedd y llong olew Prestige wedi hollti’n ddau. Er ei bod yn dal i nofio ar wyneb y dŵr, roedd ei pheiriannau wedi’u boddi. Roedd cynllun (honedig) yr awdurdodau yn Galicia i gael y llong i hwylio’n bell i ffwrdd wedi methu.  O’r diwedd, roedd gweinidogion y llywodraeth yn Madrid hefyd yn cymryd diddordeb. (Tipyn o hanes: roedd hyn i gyd yn amser llywodraeth Jose Maria Aznar a’r Partido Popular. Nhw hefyd oedd yn rheoli yn Galicia. Roedd rhai o uchel aelodau y naill a’r llall wedi bod ar daith hela, yn Galicia, hyd y dydd hwnnw.)

Roedd y Prestige, a hwyliai o dan faner y Ynysoedd y Bahama, wedi ei gwneud â dim ond un haenen o ddur yn ei chorff. Cyn y trychineb, roedd gweinidogion trafnidiaeth Ewrop eisoes wedi cytuno i’w gwahardd nhw o ddyfroedd o amgylch y cyfandir – erbyn 2007. Ychydig wythnosau wedi suddo’r Prestige, fe’u gwaharddwyd yn derfynol.  Yn awr, dim ond y tanceri ‘corff-ddwbl’ a ganiateir.

Roedd y cwmni oedd yn berchen ar y llong wedi ei gofrestru yn Liberia, a’r olew yn cael ei gludo ar ran cwmni o Rwsia, Alfa Group. Does gen i ddim o’r amser na’r adnoddau i ymchwilio i Alfa fy hunan, ond mae llith amdano gan gyrff fel Friends of the Earth.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: