Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 17, 2010

Glanhau Paradwys

Paradwys Natur: slogan y diwydiant ymwelwyr yn y rhan yma o Asturias. Ond rhaid dweud nad yw hi dim yn edrych fel’ny ar hyn o bryd. Bydd digon o waith ar gael i bobl sy’n clirio ac yn cywiro rhwng nawr a dechrau haf 2011. Mae’r stormydd diweddaraf wedi gadael cymaint o lanast ar eu hôl, ar y traeth, ar yr afonydd ac yn y mynyddoedd. Yn gyntaf, llwybr mwyaf poblogaidd y Picos de Europa, la Ruta del Cares. Reit yng nghanol y 12km sy’n uno Poncebos en Asturias a Caín yn León, cwympodd llwyth o gerrig i lawr gyda’r llif.

ruta del Cares ffoto:cathasturias

Llwybr a greuwyd yn y 50au fel rhan o gynllun trydan-dŵr yw’r un presennol; roedd yr hen lwybr, a ddefnyddiwyd dros y canrifoedd, lawr ar lan yr afon. Mae dal yn bosib pasio gyda gofal yn awr, ond bydd angen lot mwy o waith cyn y Pasg pan fydd y miloedd yn cyrraedd eto.

Llwybrau eraill sydd wedi dioddef yw’r rhai sy’n arwain at draethau ardal Ribadesella. Grisiau pren oedd yn mynd i lawr y glogwyn at y Playa de Arra: wedi mynd. Llwybr oedd yn ei gwneud yn haws i bobl llai abl i gyrraedd traethau Santa Marina a L’Atalaya: wedi mynd. Llwybr pren oedd yn cario cerddwyr dros y twyni tywod i gyrraedd Playa de Vega: wedi mynd.

O leiaf mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi eu bod yn mynd ati ar frys i glirio rwbel a choed o ganol afon Sella mewn man lle mae’r pentrefwyr wedi dioddef dwywaith eleni gan lifogydd yn cyrraedd eu tai. A byddwn ni a llawer un arall yn rhoi help llaw wrth fynd i gasglu coed i’r tân mâs o’r coed cyfan a brigau mawr sydd yn gorwedd fel argaeau yn y dŵr ac yn denu mwy o stwff i lynu atyn nhw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: