Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 18, 2010

Dyfodol y Saharawi

Codi’m llygaid heddiw i edrych yn bellach nag Asturias, yn bellach hyd yn oed na thranc y Prestige. Mae’r sefyllfa yn y Sahara Gorllewinol eisoes wedi mynd o ddrwg i waeth, a nifer o bobl leol – y Saharawi – wedi marw wrth geisio annibyniaeth o Morocco.

Hyd at 1976, y Sahara Sbeinig oedd enw’r dalaith ac roedd hi’n cael ei rheoli o Madrid. Mae i’r de o Morocco a’r gogledd o Mauretania, ac yn y flwyddyn honno fe’i goresgynnwyd gan y ddwy wlad. Popeth yn iawn, diwedd ar dwlcyn arall yn hanes ymerodraethu? Na, oherwydd doedd y Saharawi ddim eisiau bod yn rhan o’r naill na’r llall. Dyna pryd ffurfiwyd y Polisario i ymladd drostyn nhw, a dyna hefyd pryd ffoes miloedd dros y ffin i Algeria. Fe aeth rhyfel y Polisario, rhyfel guerrilla, ymlaen tan 1991 pan gafwyd gytundeb o dan nawdd y Genhedloedd Unedig.

Roedd Mauretania eisoes wedi rhoi’r gorau i’w hawl ar y rhan ddeheuol. Fe gymrodd Morocco honno hefyd, a symudodd miloedd o’r wlad honno i fyw yn y Sahara Gorllewinol.  Nhw, erbyn hyn ac oherwydd y symudiadau, yw’r mwyafrif.  Felly un o’r pethau wrth wraidd y ddadl yw hyn: petai ‘na refferendwm ar ddyfodol y Sahara Gorllewinol, pwy fyddai’n cael pleidleisio?

Fis yn ôl fe ddaeth 12,000 o bobl (gan gynnwys rhai Sbaenwyr sy’n teimlo y dylai llywodraeth Madrid wneud mwy i ddylanwadu ar Morocco) ynghyd mewn gwersyll y tu fâs i brifddinas y dalaith, El Aaiun. Ychydig dros wythnos yn ôl fe gyrhaeddodd milwyr Morocco gyda hofrenyddion a magneli dŵr a rhoi diwedd ar eu protest. Lladdwyd 5 o bobl.

Mae’r ‘gymuned ryngwladol’ yn siarad am y sefyllfa – weithiau – ond hyd yn hyn heb wneud fawr ddim. Gobeithio bydd hyn yn newid pan fydd Uchel Gynrychiolydd Ewrop ar Faterion Tramor yn cwrdd â Morocco a gwledydd eraill y maghreb mewn cyfarfod yn Brwsel ym mis Rhagfyr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: