Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 19, 2010

Suddo’r Prestige

Ar y 19eg o Dachwedd, 2002, daeth diwedd ar daith diwetha’r llong olew Prestige. Wedi’i hollti’n ddwy, a’r olew trwchus yn cael ei wthio tuag at arfordir Galicia, fe suddodd hi. Ac yna y dechreuodd y gwaith anferth a hir o lanhau. Doedd hi ddim yn bosib ei gadw o’r lan. Fe geisiodd y pysgotwyr cregyn a bwyd môr wneud argae gyda’i cychod bach i ddiogelu cynefin y crancod a’r cregyn gleision. Unwaith eto, roedd enw arfordir gorllewin Galicia, Costa da Morte  neu arfordir marwolaeth, yn dod yn wir. O’r blaen roedd yr enw’n cyfeirio at y llongau gafodd eu dryllio ar y creigiau: y tro yma roedd y llong yn rhy bell mâs i’w gweld, ond ei llwyth o wenwyn yn llenwi’r lan.

Chapapote yw’r gair lleol ar gyfer twlpyn o olew sy’n cyrraedd y traethau wedi ei ollwng yn anghyfreithlon neu’n ddamweiniol; rwy’n cofio eu gweld nhw droeon pan oeddwn yn blentyn ar draethau de-orllewin Cymru. Gair benthyg o iaith yr Asteciaid – yn ôl Wicipedia mae’n dod o enw duw llwybrau a theithio y bobl Nahuatl, ond dwi ddim wedi gweld hynny’n unman arall. Yn Galicia, fe laddodd filoedd o adar, fe gaeodd y ffermydd pysgod a bwyd môr, fe ddifethodd dymor twristiaeth 2003 ac fe achosodd anafiadau parhaol i sustemau anadlu rhai o’r gweithwyr a’r gwirfoddolwyr fu’n ceisio cael gwared arno.

Bydd yn ddiddorol iawn dilyn yr achos llys pan fydd yn agor – o’r diwedd – rywbryd y flwyddyn nesaf.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: