Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 20, 2010

Dyn v Blaidd

Gyda dyfodiad y gaeaf, bydd y bleiddiaid yn dechrau dod i lawr o lefydd uchaf y Picos de Europa i chwilio am fwyd. Mae mwy ohonyn nhw nawr nag a fu ers blynyddoedd, a’r ffermwyr yn cwyno’n fawr amdanyn nhw’n lladd ŵyn a lloi. Ers 1991, mae yn erbyn y gyfraith i’w hela nhw, felly pan fydd ymosodiad ar ddiadell bydd swyddogion o Weinyddiaeth yr Amgylchedd yn dod mâs yn unswydd i saethu bleiddiaid yn yr ardal lle mae wedi digwydd. Ond ‘mae pawb yn gwybod’ bod gwenwyn yn cael ei adael ar lethrau’r mynyddoedd, mewn cyrff anifeiliad newydd-ymadawedig. i geisio gael gwared ar y bleiddiaid.

O’r blaen roedd gan bobl yr uchelderau ffordd arall o wneud hyn.

magl bleiddiaid ffoto:cathasturias

Byddai dynion y pentref, yn ôl yr esboniad gawsom ni wrth gerdded gyda’r clwb mynydda, yn eistedd yn y ‘wigwams’ yma gyda chrwyn defaid amdanyn nhw, ac yn brefu. Pan ddeuai’r blaidd – neu’r cnud o fleiddiaid – i chwilio am yr ysglyfaeth, fe  gerddon nhw i fewn i fagl

magl bleiddiaid 2 ffoto:cathasturias

oherwydd o amgylch y ‘wigwams’ roedd ffens goed wedi ei pharatoi oedd yn culhau tua’r diwedd, fel bod na ddim modd dianc. Yna fe gododd y dynion, ac eraill, a churo’r blaidd hyd at farwolaeth gyda phastynau. Yn ôl un cyfaill, roedd gan bob pentref gwota o fleiddiaid yr oedd yn rhaid iddyn nhw eu lladd bob blwyddyn.

Mae’n dal yn ofnadwy o anodd perswadio pobl y pentrefi hyn fod gan y blaidd hefyd hawl i fyw: gelyn yw e iddyn nhw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: