Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 22, 2010

Gwyliau Hydref

Newyddion drwg heddiw i’r diwydiant ymwelwyr yn Asturias. Mae’n edrych yn dda ar yr olwg gyntaf: nifer yr ymwelwyr sy’n dod i Sbaen o wledydd eraill wedi cynyddu dros 4% ym mis Hydref o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol – yr union beth sydd wedi bod o dan sylw fan hyn gyda siarad mawr am estyn hyd y tymor gwyliau. Ond na. I Cataluña yn bennaf – dros filiwn allan o 5 miliwn i gyd – y mae’r rhain yn mynd.  Ac ar wahân i Cataluña, maen nhw’n dewis yr ynysoedd (Baleares a Canarias), Andalucia, Madrid, neu ddinas Valencia a’r gymuned honno. Mae Asturias yn ymddangos mewn grŵp o ‘gymunedau eraill’ ar waelod y rhestr, gyda llai na 5% o’r cyfanwm – sy’n gweithio mâs yn rhywbeth o gwmpas 100.000 o bobl (efallai).

y Picos o'r Sueve ffoto:cathasturias

Y ffaith syml yw bod yr ymwelwyr tramor sy’n dod i Asturias yn dod er mwyn y mynyddoedd a’r heddwch. Naill ai maen nhw’n bobl sy’n gorfod dod yn ystod gwyliau ysgol, neu maen nhw’n bobl sy’n gallu dewis eu hamser ac yn dewis misoedd pan fydd y tywydd yn fwynach nag ym mis Hydref, yn enwedig eleni.

Ffigwr diddorol arall yn yr arolwg oedd yn dangos bod nifer yr ymwelwyr sy’n dod o ynysoedd Prydain yn dal i gwympo. Mae’r cynnydd yn dod o wledydd Llychlyn, yr Iseldiroedd, a’r Eidal. Tybed ddylai’r Bwrdd Croeso ystyried ehangu i’r marchnadoedd hyn?


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: