Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 23, 2010

Etholiadau Catalunya 1

Heddiw, rwyf i am roi cynnig ar esbonio tipyn ar gefndir yr ymgyrch etholiadol yn Catalunya. Gan ymddiheuro ymlaen llaw, achos rwyf i bownd o gael rhywbeth yn anghywir! Bydd pobl Catalunya yn pleidleisio ddydd Sul sy’n dod, chwe mis ar ôl penderfyniad y Llys Cyfansoddiadol yn erbyn drafft diweddaraf cyfraith a fyddai’n adnewyddu cyfansoddiad Catlaunya ac yn rhoi mwy o bwerau i’r Generalitat, y llywodraeth yno.

Ar hyn o bryd, clymblaid sydd mewn grym: y PSC (Sosialwyr Catalan), gyda chymorth ERC (adain-chwith a pro-annibyniaeth), ac ICV-EUIA (‘enfys’ o’r Blaid Werdd, comiwnyddion a Catalanyddion heb fynd mor bell ag annibyniaeth). Ond mae arweinydd y PSC, José Montilla, eisoes wedi datgan na fydd yn ffurfio clymblaid newydd gyda’r pleidiau llai, na chwaith gyda’i brif wrthwynebwr, Artur Mas o’r CiU (adain dde-canol, cenedlaetholwyr).

Gan fod disgwyl y bydd y CiU yn ennill mwy o seddi na neb arall, ond heb fwyafrif llwyr, byddai hynny’n golygu bod yn rhaid i Mas lywodraethu o safle lleiafrifol.  Mae’n debyg y byddai’n cael cymorth y PPC (ceidwadwyr Catalan, yn erbyn annibyniaeth) ar faterion economaidd, ond nid ar bwnc llosg y cyfansoddiad a datblygiad gwleidyddol Catalunya.

Wel dyna chi’r cefndir yn fras: nesaf, beth sy’n corddi pobl.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: