Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 24, 2010

Eu Cadw i’r Oesoedd a Ddêl

O’r diwedd mae pwysau’r gyfraith i’w teimlo ar war y bobl hynny sy’n credu y gallan nhw godi tai lle mynnan nhw heb drafferthu ei fod mewn parc cenedlaethol neu safle arall sydd wedi ei ddiogelu am ei fod yn ardal wyllt heb bobl yn byw yno.

Mae perchennog tŷ newydd yn y Picos de Europa, a’r saer maen a’i gododd iddo, yn wynebu chwe mis o garchar yn ogystal â dirwy o €2000 yr un. Beth wnaethon nhw oedd cymryd hen gaban a ddefnyddiwyd fel rhan o ‘hafod’ pan fyddai’r da byw lan ar y mynydd yn ystod yr haf, a’i droi’n dŷ. Tŷ haf, wrth gwrs: ni fyddai’n bosib byw yno drwy’r gaeaf yn bell o unrhwy heol a heb drydan na dŵr.

Dyma olygfa o’r Picos de Europa o’r gogledd-orllewin, ryw brynhawn tua’r amser yma o’r flwyddyn. Hanfod y lle yma yw ei wylltineb. Ydy, mae gwaith y bugeiliaid yn rhan annatod ohono: ond nid lle i fyw rownd y flwyddyn yw’r mynyddoedd hyn. Yn hytrach, maen nhw’n lle delfrydol i ymgolli ac i gael profiad o fel yr oedd y byd cyn inni bobl ddod mor niferus ag ydym ni nawr. Lle i bawb yw e – jyst gobeithio na fydden nhw ddim i gyd yn dewis mynd yno’r un prynhawn!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: