Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 25, 2010

Achub yr Arth

Dwy flynedd yn ôl ym Mharc Cenedlaethol Somiedo yn ne-orllewin Asturias, roedd cwpwl o ymwelwyr o Madrid wedi mynd ar daith gerdded yn y mynyddoedd. Yno ar ochr y llwybr, fe ddaethon nhw ar draws arth fach, cenawes ychydig o fisoedd oed. Roedd hi wedi cael damwain, neu wedi’i hanafu mewn rhyw ffordd, ac ni fedrai hyd yn oed ddianc oddi wrth y bobl.

Aethpwyd â hi i ganolfan un o’r grwpiau sy’n ymwneud â dyfodol yr arth yn Asturias, ac yno y bu am bum mis yn derbyn triniaeth. Ddechrau’r gaeaf, fe’i gadawyd yn rhydd unwaith eto yn Somiedo, mewn man lle’r oedd ei mam wedi ei gweld yr wythnos gynt. Doedd neb yn gwybod, wrth gwrs, beth fyddai ymddygiad y fam tuag at y ferch ar ôl cymaint o amser.

Ond mae’n rhaid bod popeth wedi mynd yn iawn, oherwydd mae’r arthes ifanc, gafodd yr enw Villarina ar ôl ardal ei darganfod, yn fyw ac iach ac yn barod i ymddeol i’w hogof am aeaf arall.  Mae’n debyg taw hi yw’r unig arth erioed (? – wel erioed yn Asturias) i fynd yn ôl i’w bywyd naturiol ar ôl cymaint o amser gyda phobl. Mwy amdani ac eirth yn gyffredinol fan hyn ar wefan FAPAS.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: