Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 26, 2010

Etholiadau Catalunya 2

Mae etholiadau mewn gwlad sydd ddim yn wladwriaeth – Catalunya yn yr achos yma – i’w gweld hyd yn oed yn fwy cymhleth na rhai gwladol. Mae gyda chi’r pynciau arferol: yr economi a’i argyfwng, addysg, iechyd, yr amgylchedd, ayyb. Mae gyda chi’r perthynas rhwng Catalunya a Sbaen. A mae gyda chi’r amryfal ffyrdd y mae’r perthynas hwnnw’n effeithio ar y ddadl am bob pwnc, a vice versa. A hynny heb sôn am sut mae gwleidyddion yn gweithredu o fewn yr ymgyrch etholiadol Catalaig er mwyn ennill mantais mewn meysydd eraill, boed ar raddfa Sbeinig neu gyngor dinesig.

Un peth sy’n taro rhywun yw bod bron pob Catalan, nid yr anibyniaethwyr yn unig, yn credu taw arian trethi Catalunya sy’n cadw gweddill Sbaen i fynd.  Ac maen nhw yn llygad eu lle. Mae’r ffigyrau diweddaraf yr wyf i wedi cael yn dangos bod 12 mil o filiynau o euros wedi diflannu o goffrau Catalunya yn 2005 i’w gwario mewn cymunedau awtonomig eraill. Nid Catalunya yn unig sy’n talu: mae Madrid, Valencia a’r Ynysoedd Balearig hefyd ar eu colled. (Asturias, wrth gwrs, ar ei hennill). Ond mae hynny’n gwbl dderbyniadwy os ydych yn sôn am wlad sy’n wladwriaeth (Sbaen) sy’n ceisio talu cymorth i gymunedau tlotach. Yr un peth mae’r Undeb Ewropeaidd yn ei wneud.

Beth sy’n amlwg yn yr etholiad hwn yw nad yw Catalunya’n fodlon talu – neu ddim talu cymaint. Does gan lywodraeth Madrid ddim rheswm dros newid y drefn, yn enwedig pan fo arian yn brin. A fedrith Catalunya ddim ei newid ar ei phen ei hun a heb y cyfansoddiad newydd a dorrwyd i lawr gan y Llys. Felly mae arweinydd y CiU (adain-dde, cenedlaetholwyr)  yn gallu gofyn i arweinydd y PSC (sosialwyr, ?ffederaleiddwyr) sefyll gydag ef yn gofyn am yr arian yn ôl.  (Byddwch chi’n cofio’r llwyddiant gafodd Mrs M Thatcher gyda’r cri hwnnw slawer dydd.)

Erbyn dydd Llun fe fyddwn yn gwybod pwy sydd wedi cael y mwyaf o’r seddi, os nad siâp y llywodraeth newydd. A bydd hi’n amser edrych ymlaen at ornest arall : Barcelona yn erbyn Real Madrid, 20.00 nos Lun.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: