Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 28, 2010

O’r Ardd, ddiwedd Tachwedd

Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi esgeuluso’r ardd yn ddiweddar ond heddiw teimlo y dylwn ni wneud rhywfaint o waith yno. Mae’r tomatos diwethaf wedi eu casglu (er nad yw’r planhigion wedi’u clirio eto) a dwsenni o ddannedd-y-llew wedi cael mynd i’r compost.

seleri, kaki, tomato ffoto:cathasturias

Mae’r seleri’n hyfryd yn awr: byddaf yn torri coes neu ddwy pan fydd eisiau a gadael y planhigyn i dyfu.  Roedd y kakis yma wedi cwympo oherwydd y gwyntoedd cryf: dydyn nhw ddim wedi aeddfedu eto ond gobeithio y byddan nhw’n gwneud hynny yn y tŷ. Mae eisiau eu gadael nhw nes iddyn nhw fynd yn feddal a’u lliw yn goch – bron eu bod yn dechrau pydru. Wedyn allwch chi fwyta nhw gyda llwy neu gwneud sorbe neu saws.

Rwyf i hefyd wedi bod yn edrych ar wefannau Catalunya, ond sdim byd llawer i ddweud am yr etholiad eto gan fod pobl yn dal i bleidleisio. Ac yn ôl y sôn yr un faint ag arfer sydd wedi bwrw’u pleidlais hyd yn hyn. Byddaf yn siŵr o ddod yn ôl i’r pwnc yma yfory.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: