Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 29, 2010

Gwedd Newydd Catalunya

Wel, mae wedi digwydd yn union fel yr oedd pawb yn y cyfryngau’n darogan: yn etholiadau Catalunya, y buddugwyr mawr yw CiU, er bod y blaid honno’n dal ychydig seddi’n brin o fwyafrif llwyr yn y ‘Parlement’ – senedd Catalunya.

Nhw oedd y blaid fwyaf o’r blaen hefyd, ond gyda llai o seddi, oedd yn golygu bod y Sosialwyr yn gallu ffurfio clymblaid a llywodraethu. Y tro yma, dim ond 28 sedd sydd gyda’r PSC, y gwaethaf erioed. Mae eu harweinydd wedi ymddiswyddo ‘er mwyn ail-adeiladu’r blaid’, ac mae CiU yn addo cyfnod llym er mwyn gorchfygu’r argyfwng economaidd.

Fe wnaeth y PP, y Blaid Geidwadol sydd, yn wahanol i CiU, yn erbyn rhoi mwy o rym i Catalunya, yn dda hefyd – neu o leiaf yn well nag y mae arfer gwneud, gyda 18 o seddi.

A fydd CiU a’r sosialwyr yn gweithio gyda’i gilydd i ennill arian a grym oddi wrth lywodraeth Madrid? Go brin: y sosialwyr wnaeth gytuno’r gyfundrefn bresennol.  A yw canlyniad Catalunya yn arwydd o’r hyn sy’n debyg o ddigwydd i’r Prif Weinidog Zapatero pan ddaw ei ddiwrnod etholiadol ef?   Bosib iawn, o weld beth sy’n digwydd mewn gwledydd ar draws Ewrop.

Am y tro cyntaf, fe fydd aelodau (4) yn y senedd o blaid annibyniaeth ar unwaith: plaid cyn-lywydd clwb pel-droed Barcelona, Joan Laporta. A heno mae’r clwb yn chwarae Real Madrid yn y gêm mae Sbaen i gyd yn ei alw’n ‘clasico’.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: