Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Tachwedd 30, 2010

O’r Ardd- Ffrwyth Newydd

Eleni am y tro cyntaf mae gyda ni ffrwyth ar y goeden kaki. Mae’r dail mawr wedi troi lliw ac wedi dechrau cwympo; mae rhai ohonynt eisoes wedi eu taenu ar bridd yr ardd gerllaw.

coeden kaki ffoto:cathasturias

Cafodd y goeden hon ei phlannu ryw bum mlynedd yn ôl, a llynedd daeth digon o blodau gwyn fel gwêr cannwyll – ond dim un ffrwyth aeddfed. Eleni mae gyda ni dros 20.  Maen nhw’n edrych yn atyniadol iawn a’u lliw oren i’w gweld ar y canghennau noeth, ond dyw rhain ddim yn barod eto.  Petai rhywun yn cymryd hans – rwy’n siarad o brofiad – byddai fel lemwn sur iawn.  Ond gyda thraul amser (pythefnos eto, efallai) ac ychydig o rew dros nos (dim ond un noson, hyd yn hyn), maen nhw’n mynd yn gochbinc ac yn feddal. Mae rhai yn bwyta’r croen, ond well gen i dorri’r top a bwyta’r tu fewn gyda llwy.

ffrwyth y kaki ffoto:cathasturias

Diospyros kaki yw’r enw gwyddonol, a persimmon yn Saesneg. Mae ‘na fath arall, y gellir ei fwyta fel afal, ond dwi erioed wedi’i flasu ac mae pobl yn dweud bod gwell flas gan y rhai hyn – yr Hachiya – er bod yn rhaid aros dipyn amdano.

 

Advertisements

Responses

  1. Roeddwn i’n arfer bwyta kaki pan oeddwn i’n byw yn Japan. Maen nhw’n dweud bydd hi’n cymrud wyth mlynedd nes i chi gael ffrwyth kaki ar ôl plannu coeden.

    • Roedd hi dipyn bach yn gynt yn Asturias felly – roedd y goeden hon yn ddwyflwydd pan gafodd ei phlannu.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: