Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 1, 2010

Cinio’n Draed Moch

Rhybudd i’m cyfeillion sy’n llysieuwyr: sôn am ladd a bwyta cig y byddaf i yn y cofnod hwn.


Mae’n amser y lladdfa. Rwyf i jyst yn cofio clywed sgrech     y mochyn pan oeddwn yn ferch fach yn Sir Gâr, cyn i’r fermwyr olaf rhoi’r gorau i ladd eu moch eu hunain. Yma yn Asturias mae ffigyrau swyddogol yn dangos bod dros 4,000 yn dal i ladd: ac mae’n debyg bod yna fwy na hynny oherwydd dyw’r rheolau ynglŷn â lladd ar gyfer y teulu’n unig ddim yn orfodol. Ond mae hynny’n llawer llai na hyd yn oed 20 mlynedd yn ôl. Ym 1990 roedd dros 24,000 o foch yn cael eu lladd yn y pentrefi – cwymp o 80% os yw’m cyfri’n iawn.

Mae lladdfa draddodiadol yn cymryd tri diwrnod. Yn gyntaf, y lladd a’r gwaedu. Wedyn, tynnu’r tu fewn i gyd a golchi popeth yn drwyadl. Yn olaf, torri’r darnau o gig a’u cadw nhw mewn halen hyd nes bo’u hangen. Mae pob un dim yn cael ei ddefnyddio i wneud pwdin gwaed neu wahanol fathau o selsig yn ogystal â’r cig sydd i’w cadw.  Ac roedd pethau fel yr afu yn cael eu bwyta ar unwaith am nad oedd modd eu cadw nhw.

Dros y pythefnos diwethaf mae bar-tŷ bwyta’r pentref wedi bod yn cynnig ‘cinio’r lladdfa’, ac roedd yn hyfryd. Mae wastad yn bleser mynd i gael cinio yn Casa Anton, achos bod y perchennog, Antonio Romero, yn gogydd heb ei ail. Diddorol felly oedd cael blasu rhai o’r hen blatiau fel cawl afu sydd wedi mynd yn angof.  Blas da arno ond lot o bupur coch twym. Hefyd yr emberzau – pwdin gwaed ar ffurf selsigyn wedi’i lapio mewn dail berza (math o fresych). Ac yn brif blât, wel fe aeth hi’n draed moch o ddifri: manitas del gochu yw’r enw yn Asturias.

O ie, ac fe ddylwn i egluro taw wedi ei ladd mewn lladd-dy yr oedd cig Casa Anton.  Ac mae’r hwch yn y llun yn dal yn fyw.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: