Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 2, 2010

Garddwr, gafr?

Cwestiwn moesol yn yr ystyr athronyddol (ac un sy’n dod i’m meddwl bob tro y byddaf yn lladd planhigion ar raddfa fawr): pa hawl sydd gyda fi i benderfynu pa rai sy’n cael byw a pha un sy’n marw’n ddisymwth?

Y prynhawn yma, cyn iddi ddechrau fwrw glaw eto, bues i’n dringo’r graig sy’n rhedeg ar hyd un ochr i’r ardd isaf. Clogwyn bach sy’n wynebu’r gogledd, yn serth iawn ond gydag ambell i lecyn lle mae llawryfen (iawn, ond mae gormod gyda ni ac maen nhw’n dod lan ymhob man), derwen fytholwerdd (run peth, a hefyd maen nhw ar y rhestr diogelwch felly sdim byd y gallwn i wneud ta p’un), iorwg a mieri yn cael cartref o ryw fath. Ac mae hynny heb sôn am y mwsogl sy’n tyfu dros y graig i gyd mewn tywydd gwlyb, hynny yw, naw mis y flwyddyn.

Wrth reswm, dydyn ni ddim yn tyfu unrhyw beth fwytadwy ar y clogwyn;  pan ddaw hi’n ddadl rhwng bwyd i’r ford a phlanhigion chwynllyd, y stumog sy’n ennill. Rydyn ni, hefyd, yn rhan o ecoleg y darn bach hwn o dir. Na, mater o beth sy’n edrych yn iawn yw e, a hefyd rhwytro’r planhigion a enwyd uchod rhag cymryd drosodd yn gyfangwbl.

Rwyf yn ei gyfiawnhau fel hyn. Mae’r planhigion yma fel bwlis ysgol, neu gyfalafwyr monopolistaidd, yn cymryd y lle a’r bwyd i gyd. Yn y byd gwyllt, y tu fâs i’r ardd, byddai geifr yn gwneud yr hyn yr wyf i’n ei wneud wrth fwyta iorwg a choed ifainc  (dydyn nhw ddim mor hoff o fieri). Felly’r cwbl yr wyf i’n gwneud yw creu mwy o le i’r planhigion eraill, sy’n fwy diddorol imi am eu bod yn bertach ac yn brinnach, mewn ffordd sy’n anelu at fod yn naturiol. Dim cemegyn. Dim llosgi safle cyfan.

ffrwyth y piswydden ffoto:cathasturias

Ond dyma un goeden fach sydd wedi ymddangos yn y graig ac na fyddwn i fyth yn ceisio cael gwared ohoni. Ei henw annymunol braidd yw ‘piswydden’, ac mae’m ddigon di-nôd o ran dail – ond y ffrwyth! Mae’r adar yn dwli arnyn nhw.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: