Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 3, 2010

Dyfrbont ar Dir y Garreg Galch

Fydd y penwythnos yma ddim yn ‘bont’ – bydd hi’n ddyfrbont o faint Pontcysyllte. Pont yw’r gair yma am ŵyl gyhoeddus y gellir ei gyfuno gyda phenwythnos drwy gymryd dim ond un diwrnod yn ychwanegol: pan fydd gŵyl ar ddydd Mawrth, e.e.  Diwrnod y Cyfansoddiad yw hi ddydd Llun sy’n dod. Ond ddydd Mercher, gŵyl arall, y Beichiogi Dihalog, a dyna gwladwriaeth ac eglwys wedi dod â dyfrbont o 5 niwrnod i’r lwcus rai. Welith y 4 miliwn sy’n ddiwaith ddim llawer o wahaniaeth, wrth gwrs.

Mae Adran y Ffyrdd yn disgwyl i 7 miliwn o geir adael Madrid a’r dinasoedd mawrion eraill heno ac yfory. Ond sdim dal faint o’r rheiny fydd yn cyrraedd Asturias: mae llawer o’r ffyrdd llai dros y Cordillera Cantabrica naill ai ar gau oherwydd yr eira neu ar agor yn unig i gerbydau gyda chadwyni am eu holwynion.  Oes unrhyw un yn gwneud hynny yng Nghymru nawr? Roedd cadwyni gan Dad ond roedd e’n gorfod teithio ganol gaeaf ac i gefn gwlad i ymweld â chleifion. Dwi erioed wedi’u defnyddio nhw.

Fel hyn yr ydym ni wedi bod ar yr arfordir: yn gweld stormydd mawr yn mynd heibio i gyfeiriad Llydaw neu Chernyw, ac yn clywed am lluwchfeydd ychydig km i’r de yn y Picos de Europa. Dim ond glaw a thymheredd isel sydd wedi dod i’n rhan ni, ac mae hyd yn oed hynny i fod i wella o fory ymlaen. Efallai bydd y dyfrbontwyr yn cyrraedd wedi’r cwbl.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: