Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 4, 2010

Gŵyl a Gwaith

Diwrnod llawn o bethau nad ydych chi ddim eisiau ar gyfer y puente (gŵyl gyhoeddus).

Y bore ma bues i mewn angladd gŵr a gwraig o’r pentref oedd wedi marw yn eu cartref: credir taw nwyon gwael o’r simnai neu’r ffwrn oedd yn gyfrifol. Doedd dim lle yn yr eglwys ac ugeiniau o bobl yn sefyll tu fâs i weld y ddwy arch yn cael eu cario i’r fynwent hanner km i ffwrdd. Ac i ganol hyn i gyd daeth carafan – teulu ar eu gwyliau – ar hyd y stryd cul a gorfod ymuno â’r orymdaith am na fedrai droi, cynifer oedd y ceir bob ochr.

Mae llawer o bobl wrth gwrs heb gyrraedd eu man gwyliau o gwbl oherwydd anghydfod y rheolwyr symudiadau awyr. Maen nhw bellach yn mynd yn ôl i’w gwaith: y llywodraeth am y tro cyntaf erioed wedi cyhoeddi ‘stad argyfwng’ sy’n golygu bod aros i ffwrdd o’r gwaith yn drosedd. Maen nhw’n cwyno am y cynlluniau i’w dodi nhw o dan y Weinyddiaeth Amddiffyn pan fydd rhannau o’r meysydd awyr yn cael eu preifateiddio, ac wedi gwneud hynny drwy ffonio fewn yn ‘dost’ – pob un ohonynt.

Ac yng nghanolfan scio Fuentes de Invierno yn y Cordillera Cantábrica, ar agor am y tro cyntaf y tymor hwn, bu’n rhaid achub 150 o bobl o’r cadeiriau esgyn ar ôl i dân ddiffodd y trydan.

Ond daeth cymydog heibio gyda dwsin o wyau inni felly rwyf i am wneud tarten lemwn ac anghofio’r byd tu fâs am awr neu ddwy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: