Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 5, 2010

Teithio Trafferthus

Mae awyrennau’n hedfan eto uwchben y penrhyn Iberaidd. O dan fygythiad cyfraith filwrol fe aeth y rheolwyr awyr yn ôl at eu cyfrifiaduron dros nos. Nid  bod hynny wedi arbed rhai rhag derbyn cyhuddiad o dorri’r gyfraith honno – dros 400 ohonyn nhw.  Cawn weld: efallai os na gadawan eu desgiau eto na fydd y cyhuddiadau yma’n gorffen mewn llys barn.

Mae’r farn gyhoeddus yn erbyn gweithrediad y rheolwyr (am eu bod yn ennill cymaint â £200,000 y flwyddyn), ond hefyd yn erbyn y llywodraeth oherwydd y ffordd y mae wedi delio â’r broblem.  Eraill yn amau a ddylai’r rheolwyr weithio mwy o oriau (am resymau diogelwch), ond yn cytuno y dylid cwtogi ar eu cyflog.

Mae’r heolydd a’r rheilffyrdd wedi bod yn llawn dop dros y ddeuddydd diwethaf, gyda gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y bobl oedd yn mynd bant dros benwythnos hir y ddau dydd gŵyl.

Trueni felly dros tîm pêl-droed Sporting Gijon, yr unig un o Asturias sy’n chwarae yn La Liga, ac sydd ar hyn o bryd yn chwarae’n wael ac mewn perygl o ddisgyn: mae gêm gyda nhw’r prynhawn yma yn erbyn Espanyol yn Barcelona. A bu’n rhaid iddyn nhw golli sesiwn ymarfer a mynd yno mewn bws, 11 awr ar draws y wlad.

Ymlaen Sporting!

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: