Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 6, 2010

Aur ac Arian

Lluniau heddiw: neithiwr daeth y gwynt o’r de sydd fel sychwr gwallt; am hanner nos buom ni’n eistedd ar y teras a’r tymheredd yn rhywbeth tebyg i un Málaga. Gwynt cryf hefyd, a chwythodd y dail i gyd o’r goeden kaki a’i gadael fel coeden Nadolig.

coeden addurnedig ffoto:cathasturias

Un o’r coed cnau Ffrengig sydd yn y cefndir. Rwyf i dal heb gasglu’r ffrwyth (yn bennaf er mwyn tynnu llun heb y dail) ond bydd yn rhaid imi wneud yfory i’w cadw rhag yr adar.

Ac ar ôl aur y kaki, dyma’r bae yn arian i gyd o dan heulwen y prynhawn. Penllanw, yr afon yn llawn ar ôl y glaw mawr. A nerth Môr y Cantábrico yn gwthio i fewn i aber y Guadamia. Unwaith eto, digon o ymwelwyr wedi dod i chwilio am y bufones, ond doedd y gwynt na’r tonnau’n ddigon i chwistrellu dŵr y môr lan drwy’r tyllau yn y garreg galch.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: