Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 7, 2010

O’r Gegin – Tarten Lemwn

Mae hon yn rysait yr wyf i wedi ei dilyn droeon o’r blaen heb broblem. Roedd heddiw’n wahanol.

Mae gofyn 4 lemwn a 5 ŵy felly dim ond pan fydd digonedd o’r naill a’r llall y byddaf yn gwneud tarten lemwn. Mae’r crwst yn ddigon rhwydd:

200g can, 200g menyn, 25g siwgr, melyn ŵy, pinsied o halen, ychydig o ddŵr. Wedi cymysgu’r ddau gyntaf, ychwanegu halen a siwgr, wedyn y melyn. Llond llwy o ddŵr i weld a fydd yn ffurfio pêl, diferyn bach eto os bydd angen. Gadael y toes i orffwys yn yr oergell am awr cyn ei rolio a’i ddodi yn y tun. Dyfynnu o’r rysait wreiddiol fan hyn: bydd y toes yn torri (oherwydd yr ŵy mae’n debyg) ond sdim ots, gallwch chi stico fe nôl at ei gilydd gyda’ch bysedd. Paid â cheisio coginio hon ar blât, mae’r cymysgedd lemwn yn hylif!

Nesaf, toddi 100g menyn, gratio croen melyn un lemwn a gwasgu’r sudd o 4 neu 5 arall: 200-240ml sydd eisiau.  Nawr mae’n rhaid chwipio’r siwgr (125g) a’r wyau (5) gyda’i gilydd nes bod y cwbl bron yn wyn ac yn llawn aer. Mae’n cymryd o leiaf 5 munud mewn peiriant: dwi erioed wedi trial gwneud e â llaw. Ychwanegu’r  menyn a’r sudd lemwn, ac arllwys y cwbl i fewn i’r toes.

I’r ffwrn, 180 gradd am 40 munud. Ond och, a gwae fi!

Fy nhun newydd sbon gyda gwaelod sy’n dod mâs. Fy nhoes heb sticio’n ôl fel y dylai fe. Hanner y canol wedi dianc o’r darten. Rhaid cyfaddef fod ei blas yn iawn – y top wedi’i orwneud ychydig, na’i gyd. Ond doedd hi ddim yn darten i fynd yn anrheg i gyfeilles sy’n wael yn y tŷ, oedd hi?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: