Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 8, 2010

Anifeiliaid Prin y Picos

Newyddion drwg i gyfeillion y Picos de Europa a’r anifeiliaid sy’n byw yno.  Mae’r ffigyrau diwethaf a ryddhawyd gan awdurdodau Parc y Picos yn dangos bod poblogaeth yr anifeiliaid prin yn disgyn o hyd. Ni welwyd yr un grugiar coed (tetrao urogallus) o fewn ffiniau (eang) y parc yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae desman y Pirineos (anifail bach sy’n byw ar lan nentydd y Picos uchaf ac yn nofio yn y dŵr i chwilio am ei fwyd) mewn perygl o ddiflannu’n gyfangwbl, a dyw nifer yr eirth ddim wedi cynyddu yma fel y mae yng ngorllewin Asturias.

Ond mae hyd yn oed yr anifeiliaid y byddai rhywun yn disgwyl eu gweld yn dioddef.

gafrewig ffoto:cathasturias

Mae gafrewigod yn holl ardal orllewinol y Picos  – mwy na hanner tiroedd y Parc – yn dioddef o glawr y cŵn,  salwch sy’n cael ei achosi gan baraseit ac sydd yn farwol.  Mae dros 5000 o’r anifeiliad hardd yma, ond dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni’n gallu fforddio colli ugeiniau bob blwyddyn. Ac mae nifer y fwlturiaid griffon wedi cwympo dros 25% o fewn y flwyddyn hefyd; mae’n debyg bod llai o fwyd iddyn nhw. Naill ai mae llai o dda byw ar y mynyddoedd, neu mae llai yn marw yno.

Yr hyn sydd ddim yn yr adroddiad yw unrhyw syniad o sut mae’r awdurdodau’n meddwl delio â’r sefyllfa. Gobeithio na fydd rhaid aros yn hir amdano.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: