Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 9, 2010

Cau´r Pyllau Glo

Newyddion da i´r glowyr – dros dro. Bythefnos yn ôl, fe bleidleisiodd Senedd Ewrop dros gadw cymorthdaliadau’r diwydiant i fynd tan 2018, yn lle 2014 fel oedd y Comisiwn Ewropeaidd eisiau. Yn awr, mae’r Almaen a Sbaen wedi ennill brwydr y pedair blynedd o fewn y Comisiwn hefyd. Disgwylir y bydd yn cael ei arwyddo’n ffurfiol ddydd Gwener gan weinidogion gwledydd yr UE.

Ond, yn 2018, pan fydd yr arian i gyd wedi’i wario, bydd yn rhaid i’r pyllau sy’n gwneud colled – gan gynnwys pob un yn Asturias a gweddill Sbaen – gau: ni chaniateir cymorthdal gan lywodraethau unigol.

Bydd rhaid cyflwyno cynllun cau ar gyfer pob pwll, a dywed y cwmniau glo y bydd llawer o’r mwynfeydd yn cau’n gynt na 2018. Hefyd, bydd maint y cymorthdal yn disgyn yn raddol fesul blwyddyn. Ond fe fydd llywodraeth Sbaen, neu Asturias a’r cymunedau glofaol eraill, yn gallu talu am bethau fel gwella’r amgylchedd, ymddeol yn gynnar, neu helpu glowyr a’u teuluoedd i symud i ardaloedd eraill.

Mae’r adwaith i’r penderfyniad yn amrywio: llywydd Asturias yn dweud y bydd yn rhoi amser i ddatblygu cynlluniau dal carbon, gyda’r bwriad o wneud y diwydiant glo yn llai llygrol – ond nid, efallai, yn fwy proffidiol. Mae’r undeb sy’n cefnogi’r PSOE yn cefnogi hwn hefyd. Ac mae’r ceidwadwyr a’r comiwnyddion yn gweld beiau mawr gan na fydd y cynllun newydd yn sicrhau dyfodol y diwydiant glo yn Asturias.

Hyd yn hyn yr unig bethau sydd wedi digwydd yw bod miloedd wedi ymddeol yn gynnar ar bensiynau gweddol, a heolydd wedi eu gwella, fel bod pobl yn gallu gadael. Anodd gweld unrhyw dyfodol tymor-hir i’r pentrefi hynny ym mlaenau’r cymoedd, boed ar ochr Asturias i’r Cordillera Cantábrica neu draw yn León.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: