Newyddion o Ribadesella yn hytrach nag am Ribadesella: mae’r fferyllydd ar ei ffordd i’r Antarctig. Gwyliau yn wir, ond hefyd cyfle i brofi fel y bydd nifer o foddion homeopathig yn gweithio mewn tymheredd isel iawn. (Mae’n gobeithio gwneud yr un profion gyda chaws Gamoneu, un o ddau gaws gorau’r Picos – os na fyddan nhw wedi ei fwyta i gyd cyn cael y cyfle.)
Bydd yn hedfan i borthladd Ushuaia yn Tierra del Fuego, yn ne eithaf yr Ariannin – y fin del mundo, neu ddiwedd y byd, yn ôl arwyddion y dref. Yna bydd yn croesi’r Drake Passage mewn llong hwylio 21m o hyd, cyn hwylio ar hyd penrhyn yr Antarctig ac ymweld â llefydd fel Culfor Gerlache, Deception Island a Phorth Lockroy.
Hen orsaf Prydeinig yw’r olaf, sydd yn awr yn amgueddfa, a phan fuom ni yno ryw 5 mlynedd yn ôl cwrddais â’r rheolwr. Cyn pen 5 munud roeddem ni wedi gweithio mâs ein bod ag un cydnabod yn gyffredin, boi o Ddinbych-y-Pysgod oedd arfer gweithio ar longau’r Arolwg Antarctig. Chwe gradd o wahaniaeth, medden nhw? Dim ond dwy i’r Cymry!
Ac esgus yw hwn i ddefnyddio llun o Gulfor Gerlache. Ym mis Chwefror y buom ni yno, yn teithio mewn hen long ymchwil Rwsiaidd. Popeth yn disgleirio o’n hamgylch (pan nad oedd niwl), a’r aer mor sych roedd angen yfed dŵr yn aml.
A do, fe welon ni forfilod, ac eliffantod môr, a sawl math o forlo. A miloedd ar filoedd o bengwyniaid(?). Diar maen nhw’n drewi; roedd hi fel bod mewn cwt ffowls anferth. Ond yn fwy na dim rwy’n cofio’r tawelwch, a’r disgleirdeb, a’r sychder.
Gadael Ymateb