Byddwch chi wastad yn gwybod pa dywydd sydd fan hyn yn nwyrain Asturias wrth yr awr yr ymddengys fy nghofnodion. Tywydd braf: mâs yn yr awyr agored, naill ai’n gweithio yn yr ardd neu’n mynd i gerdded rywle. Dim cofnod tan fydd yr haul wedi diflannu y tu ôl i’r mynydd. Heddiw, wedi bod yn yr ardd drwy’r dydd. Ond gan taw clirio chwyn, yn enwedig tynnu math o wair tal mâs o’r llecyn wrth ymyl yr iet, wyf i wedi bod, dyw e ddim yn ddigon diddorol i gynnal cofnod cyfan.
Ond mae pethau diddorol yn digwydd ym mharc cenedlaethol y Picos de Europa. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd, fe fydd rheolaeth y parc yn cael ei throsglwyddo i Cantábria, León ac Asturias, y tair cymuned sydd â thiroedd oddi fewn iddo. Ac yn un o gyfarfodydd olaf dan yr hen drefn, mae dau gyngor Astwraidd ar y ffin gyda Cantábria wedi cael bod yn rhan o’r Parc ar ôl gofyn am sbel. Bydd hyn yn golygu bod Panes, un o drefi mwya’r Picos, yn dod yn rhan o’r Parc.
O’r blaen roedd cynghorwyr yn ansicr, a dweud y lleiaf, ynglŷn â manteision perthyn i’r Parc, ond yn awr maen nhw’n dechrau gweld y diwydiant twristiaeth yn elwa ohono. Mae lot o siarad am y ‘cynnig’ unigryw sydd gan yr ardal ar gyfer ymwelwyr; bydd yn ddiddorol gweld sut all y diwydiant ddatblygu a thyfu heb ddinistrio’r unigrwydd.
Gadael Ymateb