Wel, mae erthygl yn yr hen Manchester Guardian gwpwl o fisoedd yn ôl wedi gweithio fel sbardun annisgwyl i’r ymgyrch i ehangu a datblygu’r diwydiant seidr yn Asturias. Fe gyhoeddodd y papur hwnnw restr o dai seidr gorau Sbaen – pob un yng Ngwlad y Basg, Euskadi. Ers hynny mae gwneuthurwyr seidr ac ambell feddwyn trwyngoch wedi bod yn pendroni dros y broblem o sut yn union i wneud yn siwr fod y byd yn gwerthfawrogi seidr Asturias.
Mae grŵp facebook Si la sidra ye vasca el Pais Vasco ye un barriu de Nava wedi denu bron i 8000 o ddilynwyr, ac wedi ehangu i gynnwys dolenni i fwyd a choginio Asturias.
Mae seidr Asturias yn ddiod hollol naturiol: afalau a dim byd arall. Mae’r poteli’n cael eu hail-ddefnyddio droeon, naill ai gan y cwmniau seidr neu gan bobl sy’n gwneud seidr cartref. Ac maen nhw’n cael eu cau â chorcyn, sy’n gymorth i daw’r diwyddiant hwnnw ar ei draed.
Mwy yfory am y syniadau am yr hyn y gellid ei wneud i droi rhywbeth mor draddodiadol yn llwyddiant yn y ganrif XXI.
Gadael Ymateb