Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 13, 2010

Gymerwch chi ‘Culín’?

Mae gwneuthurwyr seidr Asturias wedi dod at ei gilydd i ffurfio ymgyrch i werthu mwy o seidr. Wel wrth gwrs eu bod nhw! Ond y tro yma mae ganddyn nhw rai syniadau sy’n wirioneddol newydd er mwyn ceisio lledu’r arfer o yfed ‘culín’ o seidr y tu hwnt i ffiniau’r gymuned hon.

Yn ogystal ag ymgyrch yn y cyfryngau, maen nhw am weld gweithwyr tai bwyta a barrau yng ngweddill Sbaen yn cael eu hyfforddi sut i arllwys seidr. Yr arfer yma yw codi’r botel yn uchel, gyda’r fraich yn syth lan i’r awyr, a’r gwydr yn cael ei ddala reit lawr ar bwys y pennau-gliniau. Wedyn arllwys jyst digon i rywun allu ei yfed ar ei ben yn gyfforddus.

Agor y tai cynhyrchu seidr i’r cyhoedd yw syniad arall. Ar hyn o bryd ychydig sy’n gwneud, ond rwy’n siŵr y byddai ymweliad â llagar, gyd chyfle i brofi peth o’r cynnyrch a dysgu mwy am seidr yn gyffredinol, yn atyniad i ymwelwyr.

Dydyn nhw ddim yn anghofio’r perllannau chwaith. Yn aml y gwelwch chi hen berllan wedi ei gadael, y coed yn drwsgl heb eu torri a’r gwair heb ei ladd. Mae nhw am gydweithio gyda pherchnogion coed ffrwythau i wneud yn siŵr bod digon o afalau o Asturias i gynhyrchu’r holl seidr ychwanegol fydd ei angen.

cosyn sidra ffoto:cathasturias

Mae nhw hyd yn oed yn awgrymu defnyddio’r gweddillion i wneud nwy ‘bio’ ond yn amlwb byddai eisiau lot mwy na beth oedd gyda ni’r hydref yma.

Mae cynhyrchwyr caws Asturias wedi cael cryn llwyddiant yn allforio’u cynnyrch ac yn dwyn enw Asturias o flaen cyhoedd gwledydd eraill. Tybed all y seidrirwyr (?) wneud yr un peth? Ac a fydd yn help i roi gwaith i bobl cefn gwlad?

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: