Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 14, 2010

Seidr y Nadolig

Fel diod ar gyfer dathlu’r Nadolig y datblygwyd y seidr Astwraidd sydd i’r gweld yn fwyaf aml mewn gwledydd tramor, y seidr ‘byrlymus’ neu champanizada. Roedd y ddau amcan yn cydfynd â’i gilydd yn rhyfeddol yng nghanol y XIXfed ganrif, cyn dyddiau trafnidiaeth gyflym na hyd yn oed masnachu allanol yng nghefn gwlad Asturias. Roedd pobl yn y pentrefi yn cael eu ‘fizz’ Nadoligaidd, a’r rhai oedd wedi allfudo i fyw a gweithio yng ngwledydd America yn aros yn eiddgar i’r diod eu cyrraedd. Roedd yn gallu gwrthsefyll y fordaith lot yn well o fod mewn poteli â chaeadau cryfach; byddai’r hen gorciau a ddefnyddiwyd ar gyfer y seidr arferol yn tueddu i saethu mâs ganol storom yn yr Iwerydd.

A seidr o’r un fath, gan gwmniau fel El Gaitero, sydd i’w weld mewn rhai siopau ar hyd a lled Ewrop heddiw. Mae’n haws ei arllwys, gan fod y ‘swigod’ eisoes yn rhan ohono; ond yn fy marn i yr arllwys yw hanner y profiad, y mynych geisiadau i gael yr hylif i fewn i’r gwydr â digon o aer ynddo, a’r rhannu gyda chyfeillion. Mae un o gynhyrchwyr mwyaf prodiadol Asturias yn tyngu bod blas seidr yn well o gwmpas hanner nos, bod rhywbeth o’r lleuad ynglŷn â’r diod. Dibynnu pa bryd yr wyt ti’n agor y potel cyntaf, efallai.

Tra mod i’n cofio, un o syniadau’r cynhyrchwyr ar gyfer hybu seidr Asturias yw ei wneud yn ddiod swyddogol mewn ciniawau a roddir gan y llywodraeth a chyrff eraill. Syniad grêt, ond eu bod yn awr i gyd yn rhoi’r gorau i gynnal prydiau fel hyn oherwydd yr argyfwng economaidd a’r angen i dorri nôl. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw gadw’r syniad yna mewn cof am ryw dair blynedd, o leiaf.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: