Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 15, 2010

Losin y Nadolig

Mae’r Nadolig ar ei ffordd. Y goleuadau yn y strydoedd, yr aml hysbysebion ar y teledu a’r losin yn llenwi’r siopau.

losin 'Dolig ffoto:cathasturias

Dyma’r math o beth y byddwch yn debyg o gael pan ewch i gael coffi neu lased o rywbeth gyda’r cymdogion. Siapau bach o marsipan, siocled, neu turrón – cymysged o fêl, siwgr, almons, wyau a sbeis, naill ai’n galed neu fel past. Cnau wedi’u rhostio hefyd, wrth gwrs, a pasas – cwrens a ffrwythau eraill wedi eu sychu.

Mae diwrnod y Nadolig yn ddiwrnod i fynd i’r offeren ( yn enwedig i bobl sydd ddim yn mynd yn aml) ac yn ddiwrnod ar gyfer cinio mawr i’r teulu. Ond dyw e ddim yn ddiwrnod anrhegion. Rhaid aros tan ddydd Gŵyl yr Ystwyll, y 6ed o Ionawr, am y rheiny. Dyna pryd y daw’r tri brenin i bob tref, a nhw, nid Santa, sy’n dod â’r presantau. Er bod Siôn Corn yn dechrau ymddangos mewn hysbysebion, a hyd yn oed fel y ffigwr coch cyfarwydd yn dringo i fewn i fflatiau dros rheilen y balconi.  Ac mae cyfeillion sydd â phlant bach yn dweud bod diwylliant Americanaidd yr hysbysebion byd-eang yn awr yn golygu bod y rhai bach yn digwyl anrheg ar ddydd Nadolig a Gŵyl yr Ystwyll. Ac yn disgwyl mwy na losin hefyd!

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: