Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 16, 2010

Llwybr Newydd

Yn gynharach eleni – ryw fis ar ôl gorffen y tymor ymwelwyr – ymddangosodd arwyddion taith gerdded a llinellau melyn ar yr heol ym mhentref Llames, uwchben y traeth. Llwybr ar hyd yr arfordir oedd e i fod, ond roedd y llinell felen yn mynd ar gyfeiliorn ac yn gadael yr heol sy’n arwain at y traeth. Roedd yr hen lwybr cul wedi’i ledaenu ac wedi cael cot newydd o raean i’w wneud yn haws cerdded. Yr wythnos hon o’r diwedd cawsom ni amser i’w dilyn, ac yn wir mae’n cyrraedd y Guadamía – ond yr afon, nid y bae.

tywod yr afon ffoto:cathasturias

Dyma fel mae ar ddiwedd y daith. Bron yn fetr cyfan o dywod ar ôl stormydd yr hydref, a’r afon fach wedi gwthio drwodd unwaith eto. A sawl coeden fawr wedi cael dod i lawr hefyd. Mae’n bosib cerdded o fan hyn i’r môr, ond dyw hi ddim yn hawdd: un ai byddwch yn dringo dros y creigiau neu’n cerdded yn yr afon. Anodd deall pam fod y llwybr yn dod i fan hyn, onibai eu bod nhw am godi pompren dros yr afon ac ymestyn y llwybr i’r gorllewin, i gyfeiriad Ribadesella.

tywod Eifftaidd ffoto:cathasturias

Ond roedd hi’n werth mynd, dim ond i weld y banciau o dywod wedi eu cerfio’n siapau hyfryd gan ddŵr y môr a dŵr yr afon.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: