Nadolig. Amser y baban. Amser y plentyn. Amser y teulu. Ond beth os nad wyt ti’n gwybod pwy yw dy deulu? Dyma hanes menyw o Gijon, sydd yn awr yn ei phedwar-degau a ganddi ddau o blant ei hunan. Yn y cwpwrdd mae ganddi y ‘papur lapio’ – a phapur yw e – oedd amdani pan ddaeth o ysbyty’r plant i fyw gyda’r cwpwl oedd wedi’i mabwysiadu. Aethpwyd â hi i’r ysbyty yn ychydig ddyddiau oed, ond yr unig beth a ddigwyddodd yno oedd eu bod nhw wedi’i bedyddio. Mae yna bapur i ddangos hynny. Yna – ddeuddydd wedyn – i’r teulu newydd. Does ganddi ddim syniad pwy yw ei rhieni naturiol. Dim hyd yn oed enw: ‘roedd yn gwbl naturiol rhoi ffug-enwau ar y babanod yma oherwydd y gwarth’, meddai.
Ddiwedd mis Ionawr bydd cannoedd o blant felly – dynion a menywod heddiw – yn mynd i’r llys yn Madrid i chwilio am gyfiawnder. Maen nhw’n honni bod rhwydwaith o feddygon, nyrsus, mynachod a lleianod (oedd yn rhedeg yr ysbytai hyn) wedi dileu’r olion a fyddai wedi galluogi’r plant yma i gael gwybod pwy ydyn nhw. Mae sôn bod rhai wedi cymryd arian, ond y rhan fwyaf jyst er mwyn ‘rhoi bywyd gwell i’r plant’. Roedd hyn yn digwydd, medden nhw, o 1960 hyd at yr wyth-degau, o leiaf.
Raquel yw ei henw. Ac mae eisiau gwybod beth yw enw ei mam. A’i thad. Ac o ble y daeth.
Gadael Ymateb