Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 20, 2010

Dadl y ‘Dim Ysmygu’

O fewn pythefnos fe fydd Sbaen wedi ymuno â’r rhestr hir o wledydd sy’n gwahardd ysmygu mewn barau a thai bwyta. O’r diwedd.

Mae rhwy fath o hanner-waharddiad wedi bod ers cwpwl o flynyddoedd. Gwaharddiad llwyr mewn adeiladau cyhoeddus, trenau ayyb, ond mewn barau….wedi, mae’n dibynnu ar faint y lle i ddechrau, sawl metr sgwâr sydd yna. Y llefydd bach, llai na chan metr sgwar, barau pentref ac ati, yn ddi-waharddiad. Y rhai mwy dim ond yn cael caniatau ysmygu pe baen nhw wedi darparu ystafell ar wahân ac offer i dynnu’r mŵg o’r adeilad.

O 2 Ionawr 2011 ymlaen, dim ysmygu. Mae’r perchnogion yn proffwydo y bydd llawer o’r barau’n cau, na fydd pobl ddim yn fodlon mynd mâs am culín neu bryd o fwyd heb sigaret. Ond o’r barau yr wyf i wedi bod ynddyn nhw yng Nghymru, yn Llundain, yn Paris – wel, dyw’r peth jyst ddim wedi bod yn broblem. Mae pobl yn mynd mâs ac yn dod yn eu hôl i ail-gydio yn eu gwydr a’u sgwrs. A hynny heb amharu ar iechyd y bobl eraill yn y bar drwy ysmygu drwy’r nos yn eu cwmni a’u gwynebau nhw.

Rhaid cofio hefyd ffigyrau marwolaeth erchyll Asturias: mae un o bob 5 person sy’n marw yma yn marw o afiechyd yn ymwneud â thybaco. Mae 40% o’r rhain o dan 65 oed. Rwy’n gwybod bod pobl yn cael pleser, neu fath o ryddhad, o smygu sigaret, yn enwedig pan fydd problemau diweithdra a diffyg arian yn cau amdanyn nhw, ond –  Ydy pleser cymharol rhad y sigaret (ac mae’n dal i fod yn rhad yma, hyd yn oed ar ôl y cynnydd diweddar yn y dreth), ydy e werth salwch a marwolaeth gynnar?

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: