Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 22, 2010

O’r Ardd – Compost 1

Gair diddorol iawn yw compost, sydd wedi golygu ‘cymysgedd o ddail a rhannau eraill o blanhigion a ddefnyddir at wella tir’ yn Saesneg ers y 16eg ganrif. Tarddiad Lladin sydd iddo, ‘rhoi pethau gyda’i gilydd’, yn union yr un tarddiad â’r gair Ffrangeg compote, sy’n golygu pwdin wedi’i wneud o gymysgedd o ffrwythau mewn syryp. Ac mae’r gair Saesneg wedi ei fabwysiadu gan sawl iaith, gan gynnwys Sbaeneg, i ddisgrifio’r hyn rydyn ni ‘n cynhyrchu ym mhen pella’r ddôl.

tomen gompost ffoto:cathasturias

Gan fod digon o le gyda ni, gwneud tomenni o gompost byddwn ni, gan ddechrau un newydd bob ryw 6 mis a gadael yr hen i aeddfedu. Mae pob rhan o’r planhigyn yn gallu mynd i’r domen, ond mae’n syniad da ceisio cael digon o un math – e.e. dail – i wneud haenen, ac yna dodi haenen o rywbeth arall, e.e. porfa, neu wastraff o’r gegin. Gwastraff y wasg seidr yw’r stwff browngoch ar waelod y domen ar y chwith. A dail y canna sydd ar ei phen, fel côt yn erbyn yr oerfel. Toriadau caletach sydd ar y dde, o’r gwair ‘papyrus’ a’r hydrangeas: bydd peth ohonyn nhw’n cael digon o wres erbyn daw haf 2011 i ffurfio compost da. Bydd unrhyw frigau sydd ar ôl yn cael eu llosgi – mae digon o bethau, fel ffa, yn hoff iawn o dipyn o ludw.

Ond gan fod y cwbwl mewn tomenni agored, fydda’i byth yn rhoi darnau o gig, pysgod, na hyd yn oed plisgyn ŵy yn y compost. A hynny am y bydden nhw’n siwr o ddenu llygod mawr. Sdim ots bod yr adar a’r anifeiliaid llai yn cymryd beth sydd eisiau arnyn nhw, ond nid llygod mawr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: