Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 23, 2010

Trafferthion y Tywydd

Mae tymor y gaeaf wedi cyrraedd yn swyddogol. Yn Sbaen mae’r pethau ‘ma’n cael eu nodi wrth newid cefndir rhagolygon y tywydd ar y teledu ac yn y papurau newydd. 21ain Rhagfyr: dechrau gaeaf. Sdim ots ei bod hi wedi bwrw eira’n barod, gyda lluwchfeydd mewn llawer i fan yn achosi cau heolydd. Dim ond yr wythnos hon y cyrhaeddodd y gaeaf.

Fan hyn ar yr arfordir, glaw yw’r broblem o hyd. Does yna ddim trenau ar y funud rhwng dwyrain Asturias a’r brifddinas oherwydd tirlithriad ddoe a wnaeth ddifrod i’r catenaria – y cablau trydan awyr.  (Cynnwys y gair Sbaeneg am fy mod yn hoff ohono). Ac yn y gorllewin, maen nhw’n ceisio clirio’r heol sy’n arwain i Luarca, un o brif drefi pysgota Asturias, ar ôl tirlithriad arall.

Diwrnod addas felly i gyhoeddi arolwg o’r tywydd yn ystod y degawd diwethaf. Mae 2010 yn barod wedi ennill ei lle fel y flwyddyn ail-oeraf (roedd 2007 yn waeth), ond mae hynny’n dod yn sgîl 2009, y flwyddyn twymaf ers 1972. Ond nodwedd fwyaf arbennig tywydd Asturias, yn ôl Asiantaeth Tywydd Sbaen, yw absenoldeb yr eithafion. Mae sefyllfa’r gymuned, rhwng effaith dymherus y môr a rhagfur uchel y mynyddoedd, yn ein cadw rhag y gwaethaf o’r oerfel a’r gwres sy’n rheoli yng nghanol Sbaen, ond hefyd rhag y (gwaethaf o’r) gwyntoedd uchel a llifogydd sy’n effeithio ar Galicia. (Byddwn i’n ei roi fel hyn: mae Galicia yn nannedd stormydd y gorllewin; maen nhw wedi’u bodloni ychydig erbyn cyrraedd Asturias).

Roedd y llefarydd hefyd yn rhagweld y byddai’r tywydd yn parhau fel hyn, ond bod tueddiad tuag at llai o law. Hwrê!

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: