Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 24, 2010

Diogelu’r Turlach

Mae gobaith diogelu turlach El Quérabu, ychydig i’r dwyrain o Ribadesella. Rwyf i wedi blogio am y llyn tymhorol yma o’r blaen, ar ddygŵyl Padrig eleni; llyn sy’n cael ei lenwi pan fydd yr eira yn dadmer ac yn parhau rhai misoedd cyn iddo sychu yng ngwres yr haf.

El Quérabu ffoto:cathasturias

Dyma’r unig lyn o’r fath yn Asturias, ac mae’r cyngor lleol am wahardd hela o’i gwmpas. (Maer gan helwyr hawl i fynd lle mynnan nhw onibai bod ardal wedi ei gwahardd yn swyddogol). Byddai hyn nid yn unig yn diogelu’r adar sy’n byw yno mewn ffordd uniongyrchol, ond yn golygu y bydddai’r llyn yn fwy o gronfa i ddŵr nac i blwm – sydd wrth gwrs hefyd yn lladd adar ac anifeiliaid.

Mae dros 200 o wahanol fathau o adar yn hala rhan o’u hamser ar lan El Quérabu: popeth o’r cornchwiglen i’r hebog, heb sôn am y rhai sy’n aros nos ar eu ffordd i’r gogledd neu’r de. Ac yn y dŵr ei hun, mae yna grancod bychain iawn, sydd ond wedi cael eu gweld yma, ac mewn llyn tebyg yn Catalunya.

Ar hyn o bryd ychydig iawn o bobl sy’n dod i wylio’r adar o gwmpas y turlach; ond rwy’n siŵr y byddai datblygu twristiaeth fel hyn ar raddfa fach jyst y peth i ddenu ymwelwyr.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: