Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 26, 2010

Pigion Dolig

Bu’n rhaid achub 150 o bobl o drên oedd yn croesi’r mynyddoedd ar ei ffordd o Santander i Madrid. Methodd y pantograff, y peth sy’n tynnu’r trydan o’r gwifrau uwchben, oherwydd y tymheredd isel iawn (-15C). Bu’r teithwyr yno am dros 3 awr. (O beth welais i ar y we, mae ‘na broblemau wedi bod gyda threnau trydan dros Ewrop: o’wn i’n meddwl eu bod nhw i fod yn well?)

Mae dau o’r bylchau yn Asturias ar gau o hyd i geir, er nad yw hi wedi bwrw eira ers dyddiau; a chadwyni’n orfodol mewn saith arall. Ond rwy’n credu bod pethau’n gwella: mae’r tymheredd yn codi rywfaint.

Er gwaetha’r eira, bu pobl ifainc ardal Amieva mâs yn canu carolau, gan fynd o dŷ i dŷ ar gefn ceffyl. Yn anrheg, maen nhw’n derbyn arian, a hynny’n mynd tuag at ginio i bob un di-briod noson Gŵyl yr Ystwyll. (Bydd y parau priod naill ai’n mynd â’r plant i weld y 3 brenin, los reyes magos, neu adref yn dosbarthu’r anrhegion).

Ac mewn cartref i’r henoed yn Pilona, mae un boi wedi gwneud preseb mâs o bethau a gafodd eu towlu. Tu-fewns papur tŷ-bach, hadau pwmpen, pacedi ffags ayyb. Rhaid cyfaddef na fu’n rhaid iddo wneud ffigyrau Mair, Joseph na’r baban:  roedd gan y cartref rai oedd yn cael eu defnyddio flwyddyn ar ôl blwyddyn.

 

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: