Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 27, 2010

Gwella Gwely’r Afon

Efallai’n bod ni, bobl cefn gwlad, yn conan gormod weithiau. Ond nid yn achos trigolion Triongo, yn nyffryn Sella. Bu llifogydd anhygoel ar hyd yr afon ym mis Mehefin: yr ysbyty yn Arriondas wedi’i ynysu a heb drydan, ceir wedi’i towlu ar ben eu gilydd yn y strydoedd. Dechreuwyd ar y gwaith o glirio a chywiro ar unwaith, nid yn unig i gael defnyddio’r ysbyty unwaith eto, ond am fod y Ras Canŵs rhyngwladol, y Piraguas, ddechrau Awst. Yn Triongo, dim, dim ond beth oedd pobl yn eu gwneud eu hunain. Daeth dŵr mawr eto ym mis Tachwedd; dim cynddrwg, ond eto fe gafodd rhai o dai Triongo eu gwlychu drwyddi draw.

O’r diwedd, mae’r awdurdodau wedi dechrau’r gwaith o glirio’r afon. Hyd yma mae 18,000 metr ciwbig o bridd a cherrig a sbwriel wedi eu codi o wely’r afon, ynghyd â 500 tunnell o goed mawr. Digon i gadw tanau’r pentref i fynd am fisoedd. Ac mewn pryd i fod yn sicr na fydd y llifogydd, sydd i’w disgwyl pan ddaw’r gwanwyn â’i lwyth o ddŵr y dadmer, yn gwneud cymaint o ddifrod y tro nesaf.

afon Sella ffoto:cathasturias

Maen nhw hefyd, o’r diwedd eto, yn paratoi cynllun i wella (h.y. ehangu) gwely’r afon Sella ar hyd yr 20 km union uwchlaw’r pwynt y mae dŵr y môr yn cyrraedd ar benllanw (yn y llun). Osgoi llifogydd, ie, ond beth fydd yn digwydd i bobl y ceufadau? Ganol haf, digon tebyg na fydd dyfnder iddyn nhw symud os bydd y dŵr sydd yna wedi ehangu dros wyneb gwely mwy.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: