Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 28, 2010

Adeiladu Cenedl

“Rwy’n ystyried fy hun yn un o adeiladwyr y genedl, nid rhywun sydd wedi dod i’w rhyddhau”. Geiriau Artur Mas, llywydd newydd Catalunya, ddoe wrth iddo gael ei sefydlu yn Barcelona. Ac mae rhan o’i adeiladwaith wedi dod i’r amlwg heddiw, gyda’r newyddion y bydd un cyn-sosialydd a 4 aelod annibynnol yn ymuno â 5 aelod o’i blaid ei hun, y CiU, yn ei lywodraeth.

Hyd yn hyd ni chyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond mae ‘na un broblem arbennig yn aros y llywodraeth newydd. Mewn achos gan nifer o rieni, mae llys uchaf Sbaen wedi datgan yn erbyn defnyddio Catalaneg yn unig yn ysgolion Catalunya. Ar hyn o bryd dim ond gwersi Sbaeneg sy’n cael eu dysgu drwy’r Sbaeneg. Ond mae’n anodd rhagweld beth fydd yn dod o benderfyniad y llys, gan fod y llys cyfansoddiadol yn Madrid wedi datgan 15 mlynedd yn ôl bod cyfundrefn iaith addysgiadol Catalunya yn gyfreithlon.

Heno. fodd bynnag, bydd Artur Mas yn ymddangos ar lwyfan gyhoeddus am y tro cyntaf ers y sefydlu, a hynny mewn sefyllfa digon arwyddocaol: mae tîm pêl-droed Catalunya (oes, mae gyda nhw un) yn chwarae Honduras.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: