Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 30, 2010

Helfa Drysor 2.0

Bydd y rhai a fu erioed yn perthyn i glybiau Ffermwyr Ifainc neu’u tebyg yn hen gyfarwydd â’r syniad – a’r ymarfer – o helfa drysor. Fel arfer, byddech chi’n cael darn o bapur gyda chyfarwyddiadau ar ffurf cliws yn ymwneud â’r ardal, hanes, caneuon ac ati. Bant â ni yn y car wedyn, criw o 4 neu 5 yn dadlau am ystyr y geiriau, i geisio dod o hyd i’r lle cyntaf a y rhestr. Yna, byddai cliw arall, ac felly ymlaen. Gwobr o £5 i’r sawl oedd yn cyrraedd pen y daith yn gyntaf, gyda’r holl atebion yn gywir.

Wel nawr mae’n bosib gwneud rhwybeth digon tebyg gyda chymorth GPS a’r we. Mae bwrdd twristiaeth Asturias wedi cuddio 25 o ‘drysorau’ (blychau bach plastig) mewn mannau lle maen nhw eisiau denu mwy o ymwelwyr. Mae’r ddolen hon yn dangos enghraifft o beth sy’n digwydd. Ar ôl cofrestru’r gyda’r wefan geocaching.com gall pobl ddilyn y cliws i’r safle cyntaf, wedyn yn ôl y cyfarwyddyd, chwarae o gwmpas gydag enw, e.e. enw stryd, a rhif lleoliad llythyrau’r enw yn yr wyddor, hyd nes cael rhifau sy’n cynnwys y cyfeiriad GPS ar gyfer yr ail safle, ayyb. Hynny yw, mae angen y teganau digidol, ond hefyd mae’n rhaid mynd yno i weld yr enwau.

A’r wobr? Dim hyd yn oed £5. Dim ond yr hawl i ddodi dy enw a’r dyddiad yn y blwch priodol ar y wefan.

Advertisements

Responses

  1. Dyna syniad bach clyfar i ddenu cyhoeddusrwydd, hysd yn oed os naad yw’n denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr newydd. Heb fod yn geo-catching fy hun (dw i ddim am fentro bathu term) ond dw i’n nabod rhywun sydd wrth ei fodd wrthi. Mae gyda fi GPS ar fy ffôn newydd, felly falle wna i roi tro arni rhywbryd.

    • Am ryw reswm aeth sylw Rhys i’r blwch spam, ond dyma fe wedi’i achub.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: