Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Rhagfyr 31, 2010

O’r Ardd – Compost 3

A’r olaf ar y pwnc hwn am dipyn bach. I gael y gwastraff glas a’r brown i weithio gyda’i gilydd (gweler cofnod echdoe) mae’n bwysig bod y naill a’r llall mewn haenau digon tew i fod yn weladwy, ac wedyn yn dringo am yn ail lan y domen. E.e, brigau bach ar y gwaelod, sydd hefyd yn helpu’r awyr i gylchu drwy’r domen, wedyn toriadau gwair, wedyn stwff o’r gegin (crwyn ffrwythau, dail allanol bresych ac ati – un peth am dyfu llysiau, dydyn nhw ddim mor ‘berffaith’ â rhai’r archfarchnad. Mae eisiau mwy o waith i’w glanhau nhw, ond wedyn mae wastad rhywbeth i’r compost), wedyn gwair eto.

A phan fydd yn ddigon uchel, neu’ch bin yn llawn, cau’r domen a’i gadael i weithio. Byddaf yn rhoi dail mawr fel rhai’r canna, neu ddarnau o gardbord, neu hyd yn oed haenen dew o wair ffres, drosti i’w chadw’n sych. Erbyn hyn dylai fod digon o ddŵr y tu fewn a’r gwres yn dechrau codi.

gwymon coch ffoto:cathasturias

Ac os yw’r ardd ar lan môr, cofia fynd i hôl gwymon o’r traeth os cei di gyfle. Ar hyn arfordir y Mar Cantábrico mae’r ocle yn gynhaeaf gaeaf : dros 100,000 kilos y flwyddyn ar rai draethau. Mae eisiau maint swmpus oherwydd taw dŵr yw’r rhan fwyaf, ac mae eisiau’i gymysgu gyda phethau ffres oherwydd yr halen. A dweud y gwir mae’n syniad da ei olchi fe gwpwl o weithiau gyda dŵr ffres. Ond dyma ffordd naturiol i gael potasiwm, un o hoff fwydydd y tomato a phlanhigion eraill, i fewn i’r compost.

Advertisements

Responses

  1. Yma yng ngogledd orllewin Cymru, mae’n bosib gadael i’r glaw olchi’r halen o’r gwymon hefyd am wn i, cyn belled nad oes tunnelli ohono gennyt!
    Yn llyfr JE Jones ‘Llyfr Garddio’ 1969, (llyfr gwych a gefais yn ail-law am deirpunt!), DEILBRIDD sy’n cael ei ddefnyddio am leafmould. Mae deilbridd yn cael pennod gan JEJ, ac mae’n cyfeirio ato fel “y gwrtaith pwysicaf”.

    • Rwy’n dwlu ar y gair deilbridd! Ac wedi dodi nodyn ar ddiwedd y cofnod hwnnw yn diolch amdano. Yn awr bydd rhaid imi chwili am y llyfr – mae’n swnio fel un y byddai werth ei ail-argraffu.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: