Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 3, 2011

Arwr neu Fradwr

Ymddiheuro ymlaen llaw i’r rhai nad ydynt yn dilyn gwleidyddiaeth (yn enwedig gwleidyddiaeth dramor!) ond alla’i ddim peidio ag aros gyda thema ddoe. Mae ymddiswyddiad Francisco Alvarez-Cascos o’r PP (y ceidwadwyr Sbeinig) a’i dddaganiad ei fod am ddechrau prosiect gwleidyddol newydd i ac yn Asturias, wedi esgor ar ddadlau drwy’r papurau, ar y radio, hyd yn oed ar y stryd. Dyw ef ei hun ddim wedi dweud dim ymhellach, ond mae un o aelodau’r PP yn senedd Asturias wedi gadael y blaid a’i sedd. (Yn wahanol i beth ddigwyddodd gyda’r cynulliad a Mohammed : gan ei fod wedi ei ethol o restr, sedd y blaid PP yw hi, nid ei sedd ef fel unigolyn). Ac mae nifer o gynghorwyr mewn dinasoedd fel Oviedo a Gijon hefyd wedi datgan eu cefnogaeth i Cascos.

Ac o blith y bobl?

pobl PP: mae Cascos yn fradwr ac os bydd yn sefyll yn yr etholiadau ym mis Mai fe fydd y Sosialwyr yn ennill hyd yn oed mwy o seddi achos bydd e’n hollti’r bleidlais adain dde/mae Cascos yn arwr sy’n sefyll dros weddnewid Asturias ac yn erbyn y canol.

pobl PSOE: mae Cascos yn fradwr a gwell fyth eu bradwr nhw yw e/hahaha

pob math o bobl: mae e jyst eisiau bod yn ben ar arnom ni/ chi’n cofio ‘r llanast wnaeth e o’r tollau ar y draffordd/ amser iddo ymddeol go iawn.

Dw’i ddim wedi gweld na chlywed dadlau tebyg ers imi fod yma. Rwy’n amau nad hwn fydd y cofnod olaf ar y pwnc.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: