Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 4, 2011

Yn Oes Oesoedd

Cefais i wefr wrth ddarllen am y bedd diweddaraf i gael ei ddarganfod yn safle Argandanes, ychydig i’r de-orllewin o Ribadesella. Roedd yr archaeolegwyr wedi bod yn palu mewn mynwent Rhufeinig, ac wedi dod o hyd i weddillion 3 chorff, ynghyd â darnau o grochenwaith ac ati o’r canrifoedd cyntaf OC. Roedd hynny ynddo’i hun yn wyrth, gan fod yr hen gaer bron wedi diflannu wrth i genedlaethau o ffermwyr Astwraidd ei chloddio am gerrig i’w tai.

Ond yn awr maen nhw wedi ffindio bedd o’r 6ed neu’r 7fed ganrif, yn bell ar ôl i bob milwr ddianc yn ôl i Rufain. Dyn oedd e, a gyda fe wregys o ledr gyda  cŷn yn hongian oddi wrtho. Y gobaith yw y bydd astudiaeth o’r rhannau metal sydd ar y teclyn hwnnw’n gallu rhoi dyddiad pendant i’r ymadawedig. Felly rhaid chwilio eto, ac ehangu’r chwilio, a nid yn unig wrth balu’r tir. Mae angen mwy o arian, ac mae dod o hyd i hwnnw’n mynd i fod yn gamp.

Yn fy marn i mae gwaith yr archaeolegwyr yn yr ardal fach hon eisoes wedi profi’i werth: nepell i ffwrdd mae ogof y Sidron, lle cafwyd gweddillion nifer o bobl Neandertal. Fe lwyddwyd i dynnu peth o’u DNA, ac felly darganfod bod gan y bobl gyntefig yr un math o newidiadau yn y genyn FOXP2 ag sydd gyda ni heddiw. Mae FOXP2 yn cael ei alw ar lafar ‘y genyn iaith’; roedd yr astudiaeth hon felly’n awgrymu’n gryf – ac am y tro cyntaf erioed – bod y bobl Neandertal yn gallu siarad.

Mae pobl wedi byw yn yr ardal ers dros 100,000 o flynyddoedd: ardal wledig, amaethyddol yw hi. A dychmygu’r Neanderthal, neu Lugones yr Oes Efydd, yn dod yn ôl ac yn adnabod y tirwedd sy’n hala ias drwy’r cnawd.

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: