Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 5, 2011

Mae’r Magos yn Cyrraedd

Yfory yw Gŵyl yr Ystwyll, pan fydd y plant yn derbyn eu hanrhegion. Ond mae’r Reyes Magos de Oriente – y brenhinoedd doeth o’r dwyrain – yn cyrraedd Asturias heno.  Brenhinoedd yw’r enw traddodiadol ar y cymeriadau – er nad oes dim sôn am hynny yn y Beibl.  Bydd y tri – Melchor, Gaspar a Baltasar – yn marchogaeth drwy strydoedd y trefi ar gefn ceffyl ac yn towlu losin a teganau bach i’r dorf.

Ymhell cyn heddiw, ddechrau Rhagfyr, bydd y plant wedi ysgrifennu eu llythyron at y brenhinoedd yn gofyn am anrhegion arbennig. Yn y trefi mawrion, daw’r Tywysog Aliatar ar gennad i gasglu’r llythyron a mynd â nhw i’r Dwyrain.

Diwedd gŵyl y Nadolig yw’r Ystwyll, diwedd hefyd ar y gwledda, a dim byd i edrych ymlaen ato fe ond y Carnifal ymhen ryw ddeufis. Mae sawl rysait ar gyfer y roscon de reyes – torth y brenhinoedd – mae yna un yn Sbaeneg fan hyn. Mae cwpwl o bethau anghyffredin yn rhestr y cynnwys: leche de almendras (llaeth almons) a baratoir wrth gymysgu almons wedi malu, llwyaid o siwgr, a dŵr i wneud past. Mae angen gwneud hwn y diwrnod cyn gweithio’r dorth. Ac   agua de azahar (dŵr blodau’r oren) sydd ar werth mewn siopau mawr a fferyllwyr.  Mae’n siŵr y byddai dŵr rhosod yn gwneud y tro.

Mae angen: 120g siwgr mân, croen lemwn ac oren wedi eu grato, 250g llaeth almons, 70ml olew, 30g burum ffres, 30g dŵr blodau’r oren, 460g can at wneud bara, halen.

Cymysgu’r siwgr a’r croen ffrwythau. Mewn bowlen (fawr) arall, chwipio’r llaeth almons a’r olew ac yna eu cymysgu â’r burum a dŵr blodau’r oren. Ychwanegu pinsied o halen a’r can a gweithio fe nes daw toes. Gadael am awr i ddyblu mewn maint. Bwrw i lawr a gweithio eto, ffurfio’r toes yn gylch, a pheintio’r top gydag ychydig o olew. Cael y ffwrn yn barod – 200 gradd. Gadael i ddyblu unwaith eto.

Pobi am 20-25 munud. Pan fydd yn bosib  – h.y. wedi colli ychydig o wres – ei rowlio yn y siwgr a’r croen ffrwythau. Wedyn ei addurno â darnau o ffrwyth candi – neu ddim, mae’n iawn heb y rheiny.

 


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: