Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 6, 2011

Arian Tseina

Daeth bad achub annisgwyl i helpu economi bregus Sbaen oddi ar y creigiau: mae llywodraeth Tseina wedi addo prynu gwerth 6 biliwn o euros o ddyled y wlad. Dyw e ddim yn ddigon, wrth gwrs, ond mae e’n ddechreuad. Dyled cyhoeddus a diffyg tyfiant yn yr economi (ac felly diweithdra) yw problemau Sbaen; mae’r banciau yn gweithio o fewn cyfundrefn eithaf tyn sydd wedi diogelu’r rhan fwyaf rhag y cwymp a welwyd mewn gwledydd eraill.

Mae Tseina a Sbaen hefyd wedi arwyddo cytundeb masnach o tua’r un faint, gan gynnwys prynu cwmni olew mawr yn Brasil oedd yn eiddo i gwmni Repsol o Sbaen. Ond mae ‘na le i bethau bach: mae’n debyg bod trigolion cyfoethocaf Tseina wedi cael blas ar olew (olewydd), a ham Sbeinig. Nhw hefyd, dybiwn i, yw’r 2 filiwn y mae llywodraeth Tseina eisiau’u gweld yn cymryd gwyliau yn Sbaen erbyn 2020. (Roedd awdurdodau twristiaeth Madrid wedi awgrymu nôd o 1 filiwn).

Tybed faint ohonyn nhw fydd yn cyrraedd Asturias? Neu’r Guadamia? Dyw poblogaeth Ewrop fel y cyfryw ddim wedi’n darganfod ni eto. Fel mae’n digwydd me sôn yn y papur heddiw bod cwmni o Tseina wedi ymweld yn ddirgel ag Asturias i chwilio am safle i ffatri newydd. Maen nhw hefyd wedi gweld llefydd eraill yn Ewrop. Roedd yr ymateb yn y sylwadau yn syrthio i ddau ddosbarth: y rhai oedd yn amau y byddai’r ffatri, os daw, yn disgwyl i weithwyr Asturias dderbyn amodau gweithwyr Tseina, a’r rhai oedd yn pwyntio at yr etholiadau ac yn dweud bod y llywodraeth wedi gadael wybod am yr ymweliad er mwyn lledu’r syniad eu bod yn gwneud rhywbeth dros y di-waith.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: