Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 8, 2011

Llyfr Garddio

Diolch i Wilias, mynych sylwebydd, am y cofnod hwn. Dro’n ôl bues i’n sôn am gompost, a deilbridd – daeth y gair olaf yna o ‘Lyfr Garddio’  J.E.Jones, drwy law Wilias. Felly es i ati ar unwaith i chwilio ar y we,  a heddiw fe gyrhaeddodd drwy’r post. Hwrê! Y math o lyfr y gelli di ei ddarllen am bleser neu am wybodaeth arbennig ac arbenigol wir ar lawer i bwnc garddwrol.

Mae’n dechrau gyda phennod ar y syniad o arddio er mwyn pleser – y pleser o’i wneud a’r pleser o edrych arno wedyn. Ac mae’r pennod nesaf un yn dwyn y teitl ‘Dulliau Arbed Gwaith ac Amser’. Beth arall mae rhywun yn mofyn? Ond peidied neb â meddwl bod yr awdur yn un esgeulus: mae’n gwybod ei bethau. Bydd y tudalenni ar y gwrteithiau, eu diben a sut i’w cymysgu nhw, yn cael eu byseddu’n aml.

Mae iaith a holl naws y llyfr yn elfen arall: yma darllenais am draethawd Ffransis Payne, a gyhoeddwyd ym 1955 yn y cylchgrawn Lleufer ac sydd i’w weld yma ar un o dudalennau’r Llyfrgell Genedlaethol. O’r traethawd hwnnw cafodd J.E. Jones y gair ‘lluarth’ am ardd lysiau: gair hynafol ond un sydd angen arnom ni heddiw.

Edrych ymlaen, felly, i weld ein gardd ni eto fel un Gwerclys ger Corwen 500 mlynedd yn ôl pan ganodd Edward Brynllys:

Gardd wych hardd yw hon, heb le yn wag o blanhigion.

 


Ymateb

  1. Diolch am y ddolen i’r erthygl hynod ddifyr yn Lleufer.
    Roedd y gair lluarth wedi fy nharo i yn syth ar ol cael y llyfr hefyd. Sefydlwyd cymdeithas yma yn Stiniog i geisio cael rhandiroedd ac os yn llwyddianus byddai’n braf eu gweld yn mabwysiadu lluarth yn hytrach na rhandir.
    Mae ambell i ran o lyfr JE Jones yn hen ffasiwn wrth gwrs, ond roedd o flaen ei amser i raddau hefyd, wrth annog defnyddio cyn lleied o bla laddwyr a phosib, ac argymell ddulliau eraill o reoli plau ac afiechydon. Fel ti’n ddweud, mae’n bleser pori yn y llyfr.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: