Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 9, 2011

Dyddiau Du

Dyddiau Du oedd enw gwaith fideo John Cale yn y Biennale ddiwethaf yn Fenis: gwaith yn mynegi diffyg gobaith yng ngwyneb artaith. A dyddiau du yw hi ar drigolion di-waith dwyrain Asturias. Mae’r ffigyrau’n dangos bod ychydig o dan 4000 heb waith – bron ddwyaith gymaint ag oedd 4 blynedd yn ôl. Ac mae’r nifer yn dal i godi. Ar ôl hoe fach, ym mis Rhagfyr fe gollwyd rhagor o swyddi yn yr ardal hon ac yn Asturias gyfan (yn wahanol i weddill Sbaen).

Ddiwedd y mis, fe fydd y rhai sydd wedi bod yn ddiwaith ers amser yn colli peth o’u hincwm wrth y llywodraeth. Mae Zapatero a’i weinidogion yn dal i siarad â’r undebau (heb adael i neb wybod yn union ble a phryd) i geisio cytundeb ar restr arall o newidiadau i fyd y gweithwyr: gohirio oedran ymddeoliad, newid trefniadau colli gwaith, hyd yn oed newid fframwaith cyd-fargeinio diwydiannol.

Y broblem yma yw taw dim ond y diwydiant ymwelwyr sy’n gwneud elw. Mae pysgotwyr a ffermwyr a dynion y coedwigoedd a’r chwareli yn cadw i fynd. Ac mae’r adran adeiladu, oedd mor bwysig, ar stop. Erbyn hyn, mae hyd yn oed y prosiectau cyhoeddus wedi dod i ben, neu wedi’u ‘parcio’ yn aros am ragor o arian. Mae gobaith y bydd gwaith yn ail-ddechrau ar y draffordd yn y gwanwyn, ond gyda llai o weithwyr.

Mae ‘na ddywediad fan hyn ‘todo el monte no es orégano‘ h.y. mae’n rhaid chwilio i ddod o hyd i bethau da. Ar hyn o bryd ni welaf ‘run sbrigyn o oregano ar gyfer y diwaith.


Gadael sylw

Categorïau