Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 10, 2011

Cadoediad ETA – eto

Dim ond pedwar mis yw hi ers bod ETA wedi cyhoeddi cadoediad (cofnod 5 Medi) a phryd hynny chafodd e fawr o groeso gan y pleidiau mawr Sbeinig. Ond y bore ma eto, fe ymddangosodd y triawd cuddiedig, drwy’r papur Gara y tro yma, a dweud eto y bydd ‘na gadoediad, y tro yma yn ‘barhaol ac yn wiriadwy’.

Doedd e ddim yn annisgwyl: mae Grŵp Cyswllt Rhyngwladol wedi bod yn gweithio ers misoedd yn ceisio adeiladu fframwaith ar gyfer proses heddwch. Ei brif ffigwr yw Brian Currin, cyfreithiwr o Dde’r Affrig a chwaraeodd ran bwysig nid yn unig yn y broses o sefydlu’r drefn newydd yno, ond hefyd yng ngogledd Iwerddon. (Bu’n allweddol yn y trafodaethau ynglyn â gorymdaith Drumcree pan oedd yr helynt yn ei anterth, a hefyd yn cadeirio’r comisiwn oedd yn ystyried rhyddhad cynnar i garcharorion o’r mudiadau paramilitaraidd.)  Feddwedodd e fis yn ôl ei fod yn disgwyl cyhoeddiad, a heddiw swniodd yn eitha plês gyda’r hyn a glywodd. Roedd ETA, meddai, wedi cyflawni’r hyn a ofynnwyd.

Mae adwaith y PSOE, sy’n llywodraethu yn Madrid, ychydig yn wahanol y tro yma. Dal ddim yn ei groesawu, ond heb ei wfftio chwaith, ac yn ei ddisgrifio fel ‘newyddion da’. Dyw barn y PP, hyd y gwela’i, ddim wedi newid: maen nhw am i ETA i beidio â bod, a dyna fe. Mae ETA wedi gwneud yn amlwg yn y darganiad eu bod nhw am weld y broses yn mynd ymlaen mewn ffordd ddemocrataidd, sy’n ein harwain yn naturiol yn syth at yr etholiadau lleol (trefol) ym mis Mai, ac a fydd pleidiau sy’n gysylltiedig ag ETA yn cael hawl i sefyll. Dim mwy am hynny eto.

Ond roedd un o’r brawddegau yn adwaith y llywodraeth yn argoeli’n ddrwg. Ryn ni gyd wedi gweld fel mae cael pobl tramor yn rhan o’r broses wedi gwella a chyflymu pethau, yma fel mewn gwledydd ar draws y byd. Mae datganiad ETA yn sôn am gorff neu grŵp rhyngwladol i wirio’r hyn maen nhw’n gwneud. Ond roedd Alfredo Rubalcaba, y gweinidog materion cartref, yn hollol yn erbyn: gwaith y wladwriaeth, meddai. yw gwirio pethau oddi fewn i’w ffiniau. Nid felly y bu yng ngogledd Iwerddon, lle roedd gan y corff cyffelyb gadeirydd o Ganada ac os dw’i’n cofio’n iawn aelod arall o’r Ffindir. A go brin y bydd ETA’n ei dderbyn.

(Nes ymlaen) Rhagor o adwaith gwleidyddol:

y lehendakari (llywydd senedd Gwlad y Basg): wedi ei siomi gan y datganiad am ei fod yn disgwyl mwy, ac yn credu bod ETA wedi cymryd y cam hwn oherwydd y pwysau democrataidd sydd arnyn nhw. (Llywodraeth glymblaid PSE-PP sydd yno ar y funud).

CiU (cenedlaetholwyr adain-dde sy’n rheoli yn Catalunya): yn ‘annigonol’, ond y cam mwyaf pwysig a gymrodd ETA hyd yma. ‘Mae rhywbeth mawr ar droed yng Ngwlad y Basg.)

Advertisements

Responses

  1. So, fydd gan y Basgwyr a’r Catalwnwyr yr un hawl a thrigolion Gogledd Iwerddon i gael refferendwm ar eu dyfodol cyfansoddiadol. Hynny yw. all pobl Gwlad y Basg bleidleisio’n rhydd a democrataidd dros annibynniaeth neu ydy Sbaen dal i wahardd hynny?

    • Wel os wyt ti’n cofio fe wnaeth pobl Catalunya pleidleisio i gael mwy o bwerau (nid annibyniaeth gyfan) i’w senedd nhw ac fe drawyd y bleidlais i lawr y llynedd gan y llys cyfansoddiadol yn Madrid. Hyd nes bod barnwyr newydd yno, amau taw’r un fyddai tynged pleidlais/refferendwm yng ngwlad y Basg.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: