Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 11, 2011

Hanes yr Heol

Mae’r gwaith ar y draffordd wedi ail-ddechrau! Hynny yw, mae dau ddyn yn gyrru peiriannau mawr yn symud pridd o un lle i’r llall, mewn un yn unig o’r lliaws safleoedd lle buon nhw’n gweithio llynedd.  Rât hyn, fe fydd y 23 kilometros rhwng Llanes ac Unquera yn barod erbyn 2020 – efallai. Ac er na fyddwn o reidrwydd yn dewis codi traffordd fel yr unig un o’r prosiectau mawr cyhoeddus i’w hail-ddeffro, mae hyn yn bwysig i drigolion y pentrefi ar hyd yr heol sydd ohoni, yr N-634. Hen heol, rhannau ohoni ar lwybr pererinion yr arfordir, sy’n mynd drwy ganol y pentrefi.

Yn y gwanwyn a’r hydref, mae’n hwyl teithio ar ei hyd, yn gweld yr hen adeiladau, a’r pererinion gyda’u paciau, a stopio’n rhywle i gael cinio (menú del día – y ffordd orau a rhataf i fwyta ganol dydd yn Sbaen). Ond yn yr haf, mae’n ddau linyn o draffig, un i bob cyfeiriad, gan gynnwys loriau enfawr ar eu ffordd i ffatrioedd Gwlad y Basg neu archfarchnadoedd yn Ffrainc a thu hwnt. Waeth iti heb â boddran ceisio’i chroesi.

Mae damweiniau’n anochel. Gyrrwr ar ei wyliau yn dod o lôn fach ac yn gweld bod yr heol fawr yn wag. Yn rhuthro i ymuno â hi. Heb sylweddoli bod yna lein rheilffordd rhyngddo a’r cyffordd. A’r trên ar gyrraedd.  Neu lori’n methu cornel ac yn difrodi talcên tŷ.

A sdim dewis. Dyma’r unig heol ar hyd yr arfordir rhwng Asturias a Cantabria. Er bod rhaid cyfaddef ein bod ni unwaith neu ddwy wedi dringo i heol y mynydd i osgoi’r problemau wrth fynd a dod i lefydd fel Santander (dinas hyfryd gyda llaw).

Y tro yma, felly, rwy’n ymuno â phobl Vidiago ac El Peral yn dweud queremos autovia – ryn ni’n mofyn traffordd.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: