Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 15, 2011

Pigion o Ben Draw’r Byd

Mae dau berson wedi marw yn ne Chile wrth brotestio yn erbyn codiadau ym mhris nwy. Hyd yma, mae talaith Magellanes wedi derbyn cymorthdal i helpu pobl i wresogi’u tai gan fod yr ardal mor oer rownd y flwyddyn. Galwyd streic gyffredinol ddydd Mercher sydd am barhau tan fydd y peth yn cael ei setlo. Roedd y ddau a laddwyd ymysg eraill yn blocio heol yn Punta Arenas pan yrrodd lori drwy’r grŵp.

Mae’r streic wedi ychwanegu at broblemau arlywydd Chile, Sebastián Piñera, ar ôl llai na blwyddyn yn y swydd. Mae pedwar aelod o’i gabinet wedi gadael eu swyddi yr wythnos hon, un ohonynt yn uniongyrchol oherwydd y streic nwy.

Yn Buenos Aires mae lladron ar gefn beic modur wedi dwyn arian parod tramor ($68,000 a €17,000) oddi wrth un o uchel swyddogion arlywydd Yr Ariannin, Cristina Fernández de Kirchner. Roedd e newydd hôl yr arian o fanc yng nghanol y ddinas cyn ymadael gyda hi ar daith i nifer o wledydd. Dywed y papurau lleol bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y salideras – achosion lle mae rhywun tu fewn i’r banc yn gadael gwybod i’r lladron bod cwsmer newydd adael gyda swm mawr mewn arian parod.

Mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi’r gorau i’r cynllun $7 biliwn i godi ‘rhithfur’ ar y ffin gyda Mexico. Maen nhw eisoes wedi gwario $750 miliwn ar y prosiect (un o gynlluniau’r Arlywydd George W. Bush) fyddai wedi defnyddio rhwydwaith enfawr o gamerâu a radar i ddal pobl oedd yn ceisio croesi’n anghyfreithlon. Yn lle hynny, mae’r llywodraeth yn cyflogi mwy o swyddogion i wylio’r ffin, sy’n ymestyn am 3000 km (dros 1800 milltir).

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: