Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 16, 2011

Y Feipen Aur

Fyddai Warren Gatland neu Gary Speed yn derbyn gwahoddiad i fod yn westai er anrhydedd mewn pentref bach cefn gwlad? Pentref nag oedd gyda nhw’r un perthynas â’r lle cyn hynny?

Ddoe fe ddaeth Vicente Del Bosque, rheolwr tîm pêl-droed Sbaen, enillwyr Cwpan y Byd, i La Foz de Morcín, pentref ar odre’r maes glo yng nghanol Asturias . Roedd e yno i ddathlu Gŵyl San Antón a’r cynhaeaf maip. Fe’i dderbyniwyd i frawdoliaeth y pentref ac fe dderbyniodd y ‘feipen aur’ (h.y. yr orau) ond dim ond ar ôl gwisgo het a siaced traddodiadol Asturias a chusanu’r llysieuyn o flaen torf o drigolion la Foz. Bu’n rhaid iddo addo ‘hybu enw da a gwerthiant y feipen ym mhob man’ : ond pan ofynnwyd iddo a fyddai’r chwaraeuwyr rhyngwladol yn cael maip i ginio doedd e ddim yn fodlon dweud ie na nage.

Beth bynnag oedd y rheswm drosto, roedd ei ymweliad ag ardal sy’n colli trigolion a swyddi yn meddwl y byd i bobl Morcín.

(Ryn ni hefyd yn dathlu Gŵyl San Antón yn ein pentref ni, ond yn dewis gwneud hynny ddydd Sadwrn nesaf, gan obeithio y bydd y tywydd yn well.)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: